Trafod cau ysgol gynradd sydd â dau ddisgybl yng Ngwynedd

Ysgol Y GarregFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen erbyn hyn

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynlluniau i gau ysgol gynradd leiaf y sir.

Erbyn hyn dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen, gydag adroddiad yn argymell y dylid ei chau cyn Medi 2026.

Fel rhan o'r cynlluniau i gyhoeddi rhybudd statudol 28 diwrnod, byddai disgyblion y dalgylch yn mynychu Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth, sydd 2.1 milltir i ffwrdd.

Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2021 ac 17 o ddisgyblion yn Ionawr 2025, ond mae niferoedd wedi syrthio'n sylweddol ers hynny - sefyllfa sy'n "anghynaladwy a hynod o fregus".

Ysgol Y GarregFfynhonnell y llun, Alan Fryer, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cynghorydd fod y ddau ddisgybl presennol ym mlwyddyn 6 ac yn symud i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2026

Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro yn rhannu dyletswyddau rhwng Ysgol Y Garreg ac ysgol arall drwy drefniant anffurfiol.

Hefyd mae un athro a chymhorthydd rhan amser yn gweithio yn yr ysgol.

Cyfartaledd cost fesul dysgwr yn Ysgol Y Garreg yw £14,621, o gymharu â'r cyfartaledd sirol o £5,780.

Yn ymateb i'r cynlluniau dywedodd y cynghorydd lleol, June Jones, ei fod yn "drist bod y niferoedd wedi gostwng i'r graddau yma".

'Profiadau addysgiadol gwych a difyr'

Dywedodd Ms Jones fod y ddau ddisgybl presennol ym mlwyddyn 6 ac yn symud i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2026.

"Fel rhannau eraill o Wynedd ac yn wir y byd gorllewinol mae niferoedd plant wedi gostwng yn sylweddol iawn a trwy reswm yn effeithio nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr," meddai.

"Credaf ei fod yn bwysig diolch i'r staff am eu hymroddiad i'r ddau ddisgybl mewn amgylchiadau anodd ac am gynnig profiadau addysgiadol gwych a difyr iddynt."

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 10 Chwefror.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig