'Fi ffili meddwl am effaith' cau tair ysgol Gymraeg yn Sir Gâr

Protestwyr tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gâr fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Nghaerfyrddin wedi pleidleisio o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau dwy ysgol gynradd ac i fwrw ymlaen â chau trydedd y flwyddyn nesaf.
Bydd ymgynghoriadau ar ddyfodol Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn ac Ysgol Meidrim yn cael eu cynnal am chwe wythnos o 13 Ionawr tan 24 Chwefror, ac mi allai'r ddwy gau ym mis Rhagfyr 2026 os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen gyda'r cynllun.
Yn ôl ystadegau'r cyngor mae 31 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim, sydd â chapasiti ar gyfer 54, a 15 yn Ysgol y Fro, sydd â chapasiti ar gyfer 46.
Penderfynodd aelodau'r cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llansteffan ddiwedd Gorffennaf 2026.
Mae'r cyngor yn dweud bod wyth o ddisgyblion yn Ysgol Llansteffan, ond mae rhieni'n dweud bod y niferoedd wedi cynyddu i 14 ers cynnal yr arolwg.
Dywedodd protestwyr bod bwrw 'mlaen â chau'r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn "drist iawn" a "ddim yn deg".

Wyth disgybl oedd wedi cofrestru yn Ysgol Llansteffan yn ôl yr asesiad diweddaraf
Roedd Ysgol Pontiets hefyd i fod i gael ei thrafod yng nghyfarfod y cabinet, ond penderfynodd y cabinet i ohirio unrhyw ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol honno.
Mewn perthynas â'r tair ysgol arall, fe wnaeth adroddiad i'r cabinet amlygu'r heriau y mae pob un ohonynt yn eu hwynebu, sy'n cynnwys – "niferoedd disgyblion isel iawn" a nifer uchel o lefydd gwag, gyda "thebygolrwydd bach y bydd niferoedd disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf".
Clywodd y cynghorwyr hefyd fod nifer uchel o ddisgyblion yn nalgylch yr ysgolion yn mynd i ysgolion mewn ardaloedd eraill.
Roedd y diffyg yng nghyllideb y cyngor hefyd yn ffactor yn y penderfyniad gyda'r adroddiad yn dweud bod disgwyl arbedion blynyddol o dros £275,000 pe bai'r tair ysgol yn cau.

Honnodd Ann Jones nad yw'r broses wedi bod yn deg
Ddydd Llun, bu degau o bobl o sawl ardal yn protestio ar risiau'r cyngor yn erbyn y posibilrwydd o gau'r ysgolion.
Yn ôl cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim, Ann Jones mae "pawb yn teimlo'n drist iawn bod hyn yn digwydd, achos dyw e ddim yn deg – y broses ma' nhw wedi gwneud".
"Dy' nhw ddim wedi gwrando arno' ni a ma' nhw'n cadw i fynd a neud be' ma' nhw moyn," meddai.
Roedd Charlotte Grice, rhiant i blentyn yn Ysgol Llansteffan, yn dweud fod y cyngor yn "defnyddio data sy'n dweud mai wyth o blant sydd yn yr ysgol - ac mae hynna'n anghywir. Ond, so nhw'n gwrando ar ddim byd".

Heb ysgol, does dim cymuned, meddai Ffion Rees-Owens
Dywedodd un o rieni Ysgol y Fro, Ffion Rees-Owens ei bod "ffili meddwl am yr effaith fyddai'n digwydd" a bod cenhedloedd cynharach wedi ymladd i "gadw'r gymuned yn fyw a chadw Llangyndeyrn ar y map".
"Fi'n credu mai swydd ni nawr yw cadw'r ysgol ar agor. Heb ysgol, does dim cymuned," ychwanegodd.
Mae Huw Williams yn riant newydd iawn yn Ysgol Pontiets a dywedodd ei fod yn "siomedig dros ben gyda'r ffor' ma' pethe wedi mynd rhagddi".
Esboniodd hefyd nad ydy rhieni yn gwybod beth mae "y syniad yma bod saib i fod gydag Ysgol Pontiets" yn ei olygu yn ymarferol.

Mae bwriad i gau Ysgol Meidrim er bod dros 30 o blant wedi eu cofrestru yno
Fore Llun siaradodd y Cynghorydd Meinir James o ward Llangyndeyrn o blaid ei hysgol leol a dywedodd fod ganddi bryderon, pe bai'n cau, y byddai'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i ysgol arall ym mis Ionawr 2027.
Dywedodd y byddai eu symud yng nghanol blwyddyn ysgol "yn niweidiol iddynt."
Ychwanegodd fod Ysgol y Fro yn ysgol fach, wledig lle clywir y Gymraeg fel iaith naturiol ar yr iard - byddai symud y plant i ysgol fwy, mewn ardal drefol yn newid mawr i'r disgyblion, meddai.
Dywedodd y Cynghorydd James na fyddai unrhyw arian a arbedir o gau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddiffyg y cyngor a galwodd ar aelodau'r cabinet i wrthod y cynnig i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol y Fro.

Cafodd y broses i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Poniets ei hatal am y tro
Siaradodd y Cynghorydd Jean Lewis o ward Trelech o blaid Ysgol Meidrim gan ddweud nad oedd pob dewis arall yn lle cau wedi cael eu hystyried yn llawn ac ychwanegodd mai dim ond tua £13,000 fyddai'n cael ei arbed o'i chau.
Dywedodd fod hynny'n "swm bach iawn o'i gymharu â'r effaith niweidiol ar y gymuned leol".
Ar ôl i'r Cynghorydd Lewis siarad cafwyd cymeradwyaeth gan gefnogwyr yr ysgolion a oedd yn siambr y cyngor.
Pleidleisiodd aelodau'r cabinet dair gwaith ar wahân ar y cynnig ar gyfer pob ysgol unigol – bob tro roeddent yn unfrydol yn eu cefnogaeth i'r cynigion.
Trafodaethau ag ysgolion 'heb ddigwydd yn iawn'
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir Gâr o Gymdeithas yr Iaith: "Ni ddylai'r cabinet fod wedi pleidleisio dros ymgynghoriad ar ôl cyfaddef nad oedd y cam cychwynnol statudol o drafod gyda'r ysgolion, sy'n cael ei alw'n gam 0, heb ddigwydd yn iawn.
"Roedd yr adroddiadau gan swyddogion y cyngor yn dweud yn glir na ddylent awdurdodi ymgynghoriad na hysbysiad statudol heblaw eu bod yn sicr mai dyna'r opsiwn gorau.
"Bydd y gwaith paratoi i sicrhau ymatebion i'r ymgynghoriadau a gwrthwynebiadau i'r hysbysiad statudol i gau yn digwydd yn syth, ar y cyd â'r tair ysgol."
'Y broses ymgynghori heb ddechrau'
Wrth ymateb dywedodd y cyngor bod cam 0 "yn cael ei ystyried fel cyfle i gynnal trafodaethau siapio – sef cyfle i'r Pennaeth, Llywodraethwyr ac Aelodau Lleol fynegi eu barn a'u hawgrymiadau".
"Dyna'r hyn a weithredwyd", ychwanegodd y llefarydd.
Dywedodd ei bod yn "bwysig bod yn glir nad yw cam 0 yn ymgynghoriad" ac mai'r "ymgynghoriad statudol yw'r unig gam ymgynghori cyhoeddus".
Ychwanegodd Glynog Davies, aelod cabinet Sir Gâr sydd â chyfrifoldeb am addysg: "Does dim proses ymgynghori wedi dechrau – [ry'n ni wedi] siarad.
"[Mae cyfle i'r ysgolion] roi eu barn i ni, cyfle iddyn nhw i gyflwyno syniadau amgen i ni ac ry'n ni wedi derbyn hynny gan rai ysgolion, ddim gan eraill.
"Er i ni dderbyn gwybodaeth hwyr gan un ysgol... mi fyddwn ni yn ystyried y cyfan – os ydyn ni wedi bod ar fai, os ydyn ni felly i gael beirniadaeth adeiladol fe wnewn ni roi ystyriaeth i hynny er mwyn i ni fod yn gwbl glir yn y dyfodol ac yn gwbl dryloyw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
