Cartref wedi'i ddifetha ar ôl i degan fynd ar dân ar Ddydd Nadolig

Sherianne Wood a'i meibion Ffynhonnell y llun, Sherianne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhaid i Sherianne Wood a'i meibion ddianc o'u fflat pan ddechreuodd y tân yn un o ystafelloedd gwely'r plant ar Ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Mae'n anodd "gwybod faint sydd ar ôl" o'i chartref meddai mam ar ôl i fatri tegan achosi tân ar Ddydd Nadolig.

Bu rhaid i Sherianne Wood, 41, a'i meibion Evan, 13, a Blake, chwech, ddianc o'u fflat yng Nghaer-went, Sir Fynwy, pan ddechreuodd y tân yn un o ystafelloedd gwely'r plant tua 20:30.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu mai uned batris lithiwm, y mae modd ei hail-wefru, o degan car - a oedd yn rhan o un o anrhegion Nadolig y bechgyn - achosodd y tân.

Dywedodd Ms Wood bod y profiad wedi trawmateiddio'r teulu ac mae'n galw am fwy o ymwybyddiaeth o beryglon unedau batris y mae modd eu hail-wefru.

Ystafell wely wedi'i difrodiFfynhonnell y llun, Sherianne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Wood iddi weld ystafell wely ei mab yn llawn fflamau

Cyn y tân roedd Dydd Nadolig wedi bod "yn berffaith" meddai ond wrth i'r tân ddechrau bu rhaid i Ms Wood ymateb yn gyflym er mwyn achub ei theulu.

"'Nes i gydio yn y bechgyn a rhedeg rownd y bloc o fflatiau'n sgrechian ar bawb i adael" meddai.

"Roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl i mewn ddwywaith i nôl y cŵn. 'Odd y plant y tu ôl i mi'n sgrechian 'paid â mynd yn yn ôl i mewn'. Odd hi'n erchyll."

Fe wnaeth y gwasanaeth tân helpu'r teulu i gael meddyginiaeth o'r fflat ond roedd gweld y difrod yn drawmatig meddai Ms Wood.

"Sai'n credu bod modd adfer llawer" meddai.

"Roedd fy mab druan mor bryderus, o'dd e am i ni adael - mae fel bod e'n dioddef o PTSD."

Ychwanegodd ei bod yn credu bod y profiad yma am effeithio ar ei mab ieuengaf yn feddyliol.

"Fydd y plant ddim eisiau mynd yn ôl."

Bechgyn yn agor anrhegion NadoligFfynhonnell y llun, Sherianne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd un o'r bechgyn y tegan fel anrheg Nadolig

Mae'r teulu mewn gwesty ar hyn o bryd wrth iddyn nhw aros i'r gwasanaeth tân asesu'r difrod.

Ers y digwyddiad, mae ymgyrch i godi arian er mwyn helpu'r teulu yn barod wedi derbyn mwy na £3,500 mewn rhoddion.

Dywedodd Ms Wood ei bod wedi'i "llethu'n llwyr gan garedigrwydd ffrindiau, teulu a dieithriaid".

"Mae pobl mor anhygoel" meddai.

Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n derbyn cymaint o gariad a gofal. Fel teulu rydym yn ddiolchgar iawn."

Ychwanegodd ei bod hi eisiau rhybuddio teuluoedd eraill am beryglon unedau batris y mae modd eu hail-wefru.

"Dydw i ddim eisiau i unrhyw un fynd trwy'r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo" meddai.

"Os allai helpu unrhyw un i fod yn fwy gofalus, byddai hynny'n wych.

"Mae pobl yn prynu'r batris mawr yma, a ddim yn cael eu rhybuddio am ba mor beryglus ydyn nhw.

"Oes angen i rywun farw cyn iddyn nhw fod yn fwy gofalus gyda'u hagweddau diogelwch? Mae angen codi ymwybyddiaeth" meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig