Gwirfoddoli dros gyfnod y Nadolig - cyfnod prysuraf y flwyddyn

Llun o 4 gwirfoddolwr gyda elusen St John's Ambulance Cymru yn sefyll yn y mor ar draeth Dinbych y Pysgod. Mae'r 4 yn gwisgo siacedi llachar melyn. Mae llawer o bobl yn y cefndir ar y traeth.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr ar draeth prysur Dinbych-y-pysgod ar Ŵyl San Steffan y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Nadolig yn gyfnod i bobl ddod at ei gilydd a dymuniad rhai yw gwirfoddoli dros yr Ŵyl - yn eu plith gwirfoddolwyr elusen St John a hynny fel y gall pobl ddathlu'n ddiogel.

Bob mis Rhagfyr, mae St John Ambulance Cymru yn paratoi ar gyfer un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn.

Dros y Nadolig, mae gwirfoddolwyr a staff yr elusen cymorth cyntaf yn darparu cymorth meddygol ddydd a nos i gymunedau ledled y wlad.

Mae St John Ambulance Cymru yn darparu cymorth achub bywyd mewn digwyddiadau ledled Cymru ac yn cyflwyno hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl o bob oed.

Llun o 3 gwirfoddolwr yn gwisgo siaced llachar melyn a gwyrdd, gwisg elusen St John Ambulance Cymru.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Darren Murray (chwith) a gwirfoddolwyr eraill fydd yn helpu yn ystod gwyliau'r Nadolig

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Ymateb St John Ambulance Cymru, sydd wedi gwirfoddoli gyda'r sefydliad ers bron i 15 mlynedd, fod holl waith yr elusen dros gyfnod y Nadolig yn arwyddocaol - ac yn aml yn cael ei anghofio.

"Mae llawer o bobl yn meddwl bod yr haf yn brysur iawn ar gyfer ein digwyddiadau, ond rydyn ni'n brysur drwy gydol y flwyddyn," meddai.

"Rydyn ni'n mynd i ddigwyddiadau troi goleuadau Nadolig ymlaen, y marchnadoedd Nadolig, y gwasaanethau carolau, y teithiau tractor, y rasys Siôn Corn. Rydyn ni'n brysur iawn gyda'r digwyddiadau cymunedol lleol hynny."

Rhoi o'u hamser i helpu eraill

Noswyl Nadolig bu timau'n cefnogi digwyddiadau cymunedol ledled Cymru ac yna fore Nadolig mae'r digwyddiad nofio ym Mhorthcawl.

Ddydd Gŵyl San Steffan, mae gwirfoddolwyr yn cefnogi digwyddiadau blynyddol yng Nghymru - yn eu plith Dip y Walrws ym Mhen-bre, y Dip San Steffan yn Neganwy a gemau rygbi.

"Ddydd Nadolig mae gennym ni ddeuddeg o gerbydau'r gwasanaeth yn ymateb i ddigwyddiadau ledled Cymru," eglurodd Darren.

"Mae gennym ni geir argyfwng iechyd meddwl allan yn cefnogi'r gwasanaeth iechyd. Dyw'r ffaith ei bod yn Ddydd Nadolig ddim yn gwneud gwahaniaeth."

Ychwanegodd Darren: "Mae angen i ni sicrhau bod y cerbydau a'r adnoddau hynny ar gael."

Ar gyfer digwyddiadau mawr – sy'n cael eu cefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru – gall y cynllunio ddechrau ddiwedd yr haf. Mae llawer o ddigwyddiadau Gŵyl San Steffan yn cael eu hysbysebu flwyddyn ymlaen llaw.

10 o wirfoddolwyr St John yn sefyll o flaen ambiwlans yr elusen. Maen nhw i gyd yn gwisgo siacedi llachar melyn. Mae rhai yn gwisgo hetiau.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr St John fydd yn barod i helpu ym Mhorthcawl ar ddiwrnod Nadolig

Mae Darren yn tynnu sylw at yr aberth bersonol. "Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser gyda'u teulu a'u ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl i gefnogi'r elusen a'r digwyddiadau cymunedol," pwysleisiodd.

"Allan nhw ddim cynnal eu digwyddiadau hebddon ni," meddai Mr Murray. Mae'r elusen yn ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr am eu hamser ac yn eu gwerthfawrogi'n fawr iawn."

Bydd Darren, sy'n wirfoddolwr ei hun, allan yn cefnogi digwyddiad nofio ddydd San Steffan, yn ogystal â chynorthwyo partneriaid heddlu mewn mannau eraill yng Nghymru - ond mae'n gobeithio mwynhau rhywfaint o amser teuluol hefyd.

"Mae angen i ni fod yn ddiolchgar am yr amser a gawn gyda'n teuluoedd hefyd."

Dros ei 15 mlynedd o wirfoddoli, mae Darren Murray wedi gweld y gwahaniaeth y gall St John Ambulance Cymru ei wneud.

"Rydw i wedi gweld digwyddiadau lle rydyn ni wedi cael ataliadau ar y galon ac oherwydd ymyriadau ein tîm, mae pobl wedi gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty a mynd adref," meddai.

"Mae tad wedi gweld ei ferch yn cerdded at yr allor… mae mam wedi cael cyfle i weld ŵyr neu wyres."

'Rwy'n falch iawn o'r hyn a wnawn fel sefydliad'

Pwysleisiodd Mr Murray hefyd fod llawer o waith yr elusen yn digwydd yn dawel, mewn digwyddiadau cymunedol llai.

"Er ei fod yn ymddangos fel peth bach yn unig, mae gwneud llawer o'r pethau bach hynny'n cael effaith enfawr ar y GIG a'r gymuned ledled Cymru," meddai.

I Mr Murray, yr ymdeimlad o bwrpas – ynghyd â'r gyfeillgarwch a ffurfiwyd dros nifer o flynyddoedd – yw'r rhesymau pam ei fod yn dal i ddychwelyd i wirfoddoli.

"Rwy'n dal yn falch iawn o'r hyn a wnawn fel sefydliad," ychwanegodd.

"Efallai mai dim ond darn bach mewn rhan fach o Gymru ydyn ni, ond pan fyddwch chi'n adeiladu ar hynny, mae gan St John effaith enfawr ar iechyd a chymunedau ledled y byd."

Llun agos o wyneb Owen ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Thomas yn gobeithio y bydd mwy yn gwirfoddoli gyda'r elusen flwyddyn nesaf

Owen Thomas yw pennaeth codi arian a chyfathrebu St John Ambulance Cymru ac mae'n dweud fod yna alw mawr am fwy o wirfoddolwyr i'r elusen .

"Rydyn ni'n gobeithio denu tua 1,000 o wirfoddolwyr dros y flwyddyn nesa' i'w hyfforddi i gynnal cyrsiau cymorth cyntaf yn y gweithle, mewn ysgolion, cynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio deffibriliwr yn y gymuned."

Ma hi'n her i godi arian ond mae'r elusen wedi llwyddo i brynu 15 cerbyd i'r gwirfoddolwyr eu defnyddio mewn digwyddiadau cymunedol ar draws Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.