Canfod y gacynen Asiaidd yng Nghymru am y tro cyntaf

Mae'r gacynen felyngoes yn peri perygl i wenyn mêl a phryfed peillio
- Cyhoeddwyd
Mae presenoldeb y gacynen felyngoes, neu'r gacynen Asiaidd, wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru am y tro cyntaf.
Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru brynhawn Mawrth fod nyth marw y pryfyn wedi ei ddarganfod ger Wrecsam.
Dydi'r gacynen ddim yn frodorol i Brydain a cafodd ei gweld gyntaf yn Ffrainc yn 2004. Ers hynny mae hi wedi lledu ar hyd y cyfandir i Sbaen, Gwlad Belg, Portiwgal, yr Eidal, y Swistir a'r Almaen.
Oherwydd effaith posib y gacynen ar wenyn mêl a phryfed peillio, mae'r llywodraeth yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod os yn dod ar eu traws.
Bron i 3,000 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2025
Darganfod pryfyn ym Môn oedd 'wedi diflannu o'r DU yn 2016'
- Cyhoeddwyd17 Medi 2025
Sut allwn ni achub rhai o anifeiliaid brodorol Cymru
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2021
Cafodd y gacynen ei gweld yn Lloegr am y tro cyntaf yn 2016, ac mae camau wedi eu cymryd ers hynny i ddod o hyd i nythod a'u dinistrio.
Er bod breninesau'r cacwn melyngoes yn gaeafgysgu, mae'r pryfed yn weithgar o fis Chwefror i fis Tachwedd ac maen nhw'n fwyaf tebygol o gael eu gweld o fis Gorffennaf ymlaen.
Nid yw'r cacwn yn ymosodol yn gyffredinol, ond mae'r llywodraeth yn cynghori pobl i gymryd gofal ac i beidio â tharfu arnynt.
Maen nhw'n gofyn i bobl roi gwybod drwy'r ap Asian Hornet Watch neu'r ffurflen hysbysu ar-lein, dolen allanol os ydych chi'n amau eich bod wedi gweld un.

Fe all y tywydd gael effaith sylweddol ar ledaeniad y gacynen felyngoes dros y misoedd nesaf, meddai Carys Edwards
Yn ôl Carys Edwards o'r Ganllwyd ger Dolgellau, sy'n wenynwraig proffesiynol ac yn cadw 200 o gychod gwenyn ar draws gogledd orllewin Cymru, mae'n "fater difrifol iawn".
"Mi gafodd y gacynen felyngoes dymor da i dyfu mewn niferoedd ac mae'r cynnydd yn dibynnu ar sut aeaf a gwanwyn gawn ni yma yng Nghymru. Y peth gwaethaf i'r gacynen felyngoes ydi tywydd drwg," meddai.
"Mae'r gacynen felyngoes yn gallu lladd cwch cyfan o wenyn mêl - be maen nhw'n ei wneud ydi bwyta gwenyn mêl a dyna ydi'r pryder mawr.
"Mae cadw gwenyn yng Nghymru yn anodd fel ac y mae, ond os ydi'r tywydd yn ddrwg yn y misoedd nesaf, yna fe all Cymru oroesi'r gacynen felyngoes."
Dywedodd John Bowles o Gymdeithas Wenyna Cymru hefyd y gallai'r sefyllfa fod yn ddifrifol: "Mae hi'n annhebygol y gwelwn ni unrhyw gacwn cyn diwedd Chwefror, ond mae hi mor bwysig ein bod ni'n dod o hyd iddyn nhw cyn eu bod nhw'n gallu sefydlu nyth newydd.
"Roedd y nyth yma yn Wrecsam ond mae 'na sôn eu bod yn gallu teithio hyd at 60km - felly mae angen i bawb fod yn wyliadwrus."
'Angen i bawb ddysgu sut i adnabod y cacwn'
Mae'r llywodraeth wedi gofyn i'r Uned Wenyn Genedlaethol gymryd camau yn unol â'r Cynllun ar gyfer Picwn Asia.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Mae gan yr Uned Wenyn Genedlaethol flynyddoedd o brofiad o olrhain a dod o hyd i gacwn melyngoes felly bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth ein helpu i weithredu yn erbyn y pryfedyn yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i wenynwyr ac aelodau o'r cyhoedd sy'n parhau i fod yn wyliadwrus ac yn parhau i gofnodi unrhyw amheuon neu i gofnodi os ydynt yn amau eu bod wedi gweld cacwn melyngoes
"Mae angen i bawb ddysgu sut i adnabod cacwn melyngoes. Wrth i'r tywydd gynhesu yn y gwanwyn ac yn enwedig ymlaen i'r haf, parhewch i fod yn wyliadwrus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.