Starmer yn amddiffyn ymagwedd at Gymru wedi honiad tanseilio datganoli

"Dydw i ddim am ymddiheuro am wario mwy o arian yn yr Alban neu yng Nghymru i wella bywydau pobl" meddai Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi amddiffyn ei ymagwedd tuag at Gymru a'r Alban ddiwrnod ar ôl i lythyr sbarduno cyhuddiadau ei fod yn tanseilio datganoli.
Ddydd Mawrth daeth i'r amlwg bod Syr Keir Starmer wedi dweud y dylai ei lywodraeth fod yn barod i fynd yn groes i ddymuniadau llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.
Yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd y prif weinidog na fyddai'n ymddiheuro "am wario mwy o arian yn yr Alban neu yng Nghymru i wella bywydau pobl".
Beirniadodd dau aelod o'r Blaid Lafur yng Nghymru y llythyr fore Mercher, gyda chyn-weinidog yn dweud ei fod "bron yn barhad o bolisi llywodraeth y Torïaid".
Awgrymodd cyn-gwnsler cyffredinol Cymru Mick Antoniw y dylid dileu swydd Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi "ymrwymo'n llwyr i ddatganoli ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth wirioneddol â llywodraethau datganoledig".
'Undebaeth gyhyrog'
Yn y nodyn, mae Syr Keir yn pwysleisio pwysigrwydd yr etholiadau sydd i ddod yng Nghymru a'r Alban, gan ddweud y bydden nhw'n cael "effaith sylweddol ar sut yr ydym yn llywodraethu ar lefel y DU yn ail hanner y senedd".
"Dylem fod yn hyderus yn ein gallu i weithredu'n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed os yw llywodraethau datganoledig yn gwrthwynebu," meddai'r llythyr.
Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mercher, dywedodd AS SNP yn yr Alban, Stephen Gethins, fod y llythyr yn arddangos "undebaeth gyhyrog y byddai Boris Johnson wedi bod yn falch ohono".
Gofynnodd a fydd Starmer yn "parchu penderfyniad" pleidleiswyr yr Alban a Chymru.
Atebodd Syr Keir: "Dydw i ddim am ymddiheuro am wario mwy o arian yn yr Alban neu yng Nghymru i wella bywydau pobl."

Awgrymodd Mick Antoniw, y cyn-brif gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, y dylid dileu rôl Ysgrifennydd Cymru
Wrth siarad â'r BBC ddydd Mercher, dywedodd Jenny Rathbone, AS Caerdydd Canolog, fod y llythyr o fis Rhagfyr yn "eithaf gwarthus" ond ei fod "o gyfnod a fu".
Awgrymodd mai Morgan McSweeney oedd yn gyfrifol am y llythyr - cyn-bennaeth staff y prif weinidog a ymddiswyddodd ym mis Chwefror.
Dywedodd Rathbone ei bod yn "gobeithio bod pawb wedi symud ymlaen o'r math yna o nonsens oherwydd mae'n rhaid i lywodraethau weithio gyda'i gilydd, mae angen parch rhwng gwahanol lywodraethau".
"Nid yw'r llythyr hwnnw'n dangos hynny o gwbl," meddai.
Dywedodd Mick Antoniw, AS Pontypridd a chyn-gwnsler cyffredinol Cymru, ei fod yn "wirioneddol ddig oherwydd roeddwn i'n meddwl ei fod yn llythyr eithaf twyllodrus".
Ychwanegodd ei fod "bron fel ailymddangosiad gwleidyddiaeth ôl-weithredol, fewnblyg - y math o wleidyddiaeth a gawsom o dan y llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf", meddai, gan gyfeirio at Ddeddf Marchnad Fewnol y DU (UKIMA) a ddaeth yn gyfraith pan oedd Boris Johnson yn brif weinidog.
Cafodd y gyfraith, sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU wario arian ar bethau a reolir fel arfer gan lywodraethau datganoledig, ei "chyflwyno i danseilio" datganoli, honnodd Antoniw.
Galwodd Antoniw am "newid cyfeiriad ar lefel Llywodraeth y DU", er iddo nodi bod "llawer o bethau cadarnhaol" wedi dod o drafodaethau rhwng y Prif Weinidog Eluned Morgan a Syr Keir.
Dywedodd Antoniw ei fod yn disgwyl i Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, "barchu datganoli".
Dywedodd fod ei hadran yn "sefydliad cyn datganoli" a bod angen "ailddiffinio'r swyddogaethau, oherwydd ar hyn o bryd dydw i ddim yn credu bod unrhyw eglurder mawr".
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod angen Ysgrifennydd Cymru, ychwanegodd: "Na, dydw i ddim yn credu ein bod ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd2 Mawrth
