Esgob Llandaf yn diolch am bob cefnogaeth wedi blwyddyn anodd

Esgob LlandafFfynhonnell y llun, David Custance
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mary Stallard ei hethol yn Esgob Llandaf yn Ionawr 2023

  • Cyhoeddwyd

Wedi blwyddyn anodd dywed Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf, bod y gefnogaeth y mae hi a'i theulu wedi'i dderbyn ar ôl iddi golli ei mam mor sydyn wedi bod yn anhygoel.

Bu farw Daphne Stallard, 89, ar ôl iddi gael ei tharo gan lori ailgylchu yn Llandudno ddechrau Medi 2025.

"Roedd y cyfan yn sioc anferth," medd yr Esgob Stallard yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg "ond mae'r caredigrwydd dibendraw sydd wedi'i ddangos i ni wedi rhoi nerth i ni wynebu'r dyfodol."

"Ni wedi ca'l gymaint o bobl yn gweddïo droston ni ac er bo fi fel offeiriad yn gwybod am rym gweddi dwi wedi profi'r grym o'r newydd ac felly yn gallu wynebu'r dyfodol yn llawer gwell na'r disgwyl ynghanol galar.

"Mae nifer o bobl sydd wedi galaru eu hunain wedi dod aton ni i ddangos y ffordd a dwi wedi darllen yn rhywle bod modd i ni ddarganfod ein hunain yn well pan ry'n ni ar ein gliniau."

Ychwanegodd ei bod wedi dysgu pethau newydd am ei mam hefyd ers ei marwolaeth a bod ei ffydd hithau yn ystod tlodi a chyfnodau anodd wedi bod yn gymorth pellach.

'Rhaid dangos y parodrwydd i newid'

Wrth gyfeirio at y flwyddyn anodd a fu yn hanes yr Eglwys yng Nghymru dywedodd Esgob Llandaf bod yn "rhaid i ni ddangos i'r byd ein bod ni'n fodlon newid".

Ym mis Mawrth 2025 cafodd cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, ei garcharu am gam-drin plentyn yn rhywiol.

"Ma'n rhaid i ni dangos fod pethau fel safeguarding yn bwysig i ni, a ma' rhaid i ni fod fwy agored... mae gwerthoedd yr Eglwys yn ddigon clir yn ein haddoliad ac mae'n rhaid i ni ddangos i'r byd ein bod ni'n fodlon byw yn yn ôl ein gwerthoedd.

"Ble ni wedi methu, ma' rhaid i ni fod yn agored ac yn fodlon dweud ein bod ni wedi methu," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd bod "parchu barn eraill, hyd yn oed os yn anghytuno, yn holl bwysig i'r Eglwys" mewn dyddiau lle mae cymdeithas yn ymddangos yn fwy rhanedig.

Ym mis Gorffennaf cafodd Cherry Vann ei hethol yn Archesgob Cymru - y ferch gyntaf i'w hethol yn Archesgob ym Mhrydain a'r person hoyw cyntaf i fod yn Archesgob trwy'r Gymundeb Anglicanaidd gyfan.

"Mae'n amlwg ei bod yn berson sy'n medru cymodi a dyna be' mae'r Eglwys yng Nghymru ei angen," meddai'r Esgob Stallard.

"Dwi'n credu gydag amser bydd pobl yn edrych yn ôl ac yn gweld fod Cherry wedi dod â phobl yn fwy at ei gilydd pan yn arweinydd yr Eglwys yng Nghymru."

Wrth wynebu 2026 ychwanegodd Y Gwir Barchedig Mary Stallard ei bod yn llawn gobaith a hynny wedi cyfnod anodd.

"Heb obaith does yna ddim ffydd," ychwanegodd.

Bydd cyfweliad Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf, i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig