Apêl am dystion ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A438 rhwng Y Clas-ar-Wy a Chleirwy
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys brynhawn Gwener.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar yr A438 rhwng Y Clas-ar-Wy a Chleirwy am tua 16:48 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â thri cherbyd.
Bu farw gyrrwr beic modur yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae Heddlu Dyfed-powys bellach yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst i'r digwyddiad, sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.