Pam fod cynnal y Tour de France mor bwysig i Gymru?

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y pedwerydd tro i ran o'r Tour de France gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd

Dyma'r digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd – gyda nifer yn darogan y bydd ei ddylanwad ar Gymru yn "drawsffurfiol".

Dyna farn Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan ar ôl iddi hi a chyn-enillydd y ras, Geraint Thomas gyhoeddi manylion cymalau'r ras drwy'r wlad ymhen 18 mis.

Bydd beicwyr gorau'r byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf ar gyfer trydydd cymal y ras eiconig yn 2027, gyda disgwyl i biliynau wylio ar y teledu mewn dros 100 o wledydd.

Mae nifer yn gweld y cymal o'r Trallwng i Gaerdydd ar ddydd Sul 4 Gorffennaf fel cyfle enfawr i roi hwb i chwaraeon, busnesau ac iechyd yng Nghymru.

'Cyfle unwaith mewn oes'

I Thomas, aeth â baner Cymru ar y podiwm ar y Champs Elysees wrth ennill y Tour yn 2018, bydd gweld y Tour a'i pheloton yn pasio'i dafarn leol, sydd ond ychydig fetrau o'r man y cafodd ei fagu, yn gwireddu breuddwyd.

"Y Tour yw'r rheswm pam wnes i ddechrau seiclo, felly fe fydd hi'n ddiwrnod arbennig iawn – ond gwaddol yr hyn fydd wedi'r ras fydd yn hollbwysig," meddai.

Dywedodd y cyn-bencampwr Olympaidd 39 oed fod hyn yn gyfle "unwaith mewn oes" i gefnogwyr y gamp yng Nghymru.

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Eluned Morgan fod y Tour yn gyfle i arddangos Cymru ar ei gorau ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sêr o fyd y campau.

"Byddwn ni'n dangos rhannau o Gymru nad yw miliynau ar filiynau o bobl o gwmpas y byd erioed wedi eu gweld," meddai Ms Morgan.

"Nid carreg filltir yn unig i seiclo yng Nghymru yw hyn, ond mae'n ddathliad ac yn gyfle i ni arddangos ein cenedl."

"Fe fydd llygaid y byd ar ein gwlad ar gyfer un o gynulleidfaoedd chwaraeon mwyaf y blaned."

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y Tour, Christian Prudhomme eu bod yn mynd a'r digwyddiad y tu hwnt i ffiniau Ffrainc oherwydd yr angerdd mewn gwledydd eraill, gan ychwanegu fod "Cymru wedi'i chreu i feiciau".

Pryd mae'r Tour yn dod i Gymru ac i ble?

Yn dilyn y cymal agoriadol – y Grand Depart – o Gaeredin i Gaerliwelydd ar ddydd Gwener 2 Gorffennaf, ac yna o Keswick i Lerpwl ar y diwrnod canlynol, bydd y sylw ar Gymru gyda'r trydydd cymal yma ar ddydd Sul, 4 Gorffennaf 2027.

Bydd y cymal yn dechrau yng Nghastell Powys yn Y Trallwng, cyn taith 223km i Gaerdydd gyda saith dringfa i'w cwblhau – gan gynnwys Bannau Brycheiniog, Rhigos a Chaerffili.

"Fe fydd y cymal yn mynd trwy bentrefi marchnad canolbarth Cymru mewn i galon cymoedd y de," meddai Ms Morgan.

"Fe fydd 'na heriau o ran mynyddoedd cyn y bydd hi'n gorffen yn ein prifddinas."

Graffeg yn dangos cymalau'r Tour de France yng NghymruFfynhonnell y llun, ASO

Mae Geraint Thomas yn disgwyl gweld awyrgylch debyg i'r hyn wnaeth o ei brofi ar yr Alpe d'Huez.

"Bydd y beicwyr yn gwybod nad ydyn nhw yn Ffrainc. Mae'r hewlydd a'r dirwedd yn gwbl wahanol... Yma yng Nghymru mae'r hewlydd yn drwm, mae yna lonydd bach, mae'r dringfeydd yn wahanol," meddai.

"Fydd hi ddim yn hawdd, byddan nhw'n gweithio'n galed drwy'r adeg.

"Fe fydd hi'n wahanol iawn, ond dyna sy'n gwneud y ras yn anoddach i'w rhagweld, ac mae'n fy atgoffa ychydig o San Remo gan bo' hi'n dechrau'n wastad ond yna mae'n gymal hir gyda dringfeydd tua'r diwedd.

"Mae yna sawl scenario posib, felly dwi'n credu o ran beth all ddigwydd, pwy all ennill, mae'n mynd i fod yn hynod o gyffrous i wylio."

Mae'r cymal yng Nghymu 'yn bwysig iawn'

Mae Christian Prudhomme yn credu y gwelwn ni frwydr gynnar rhwng rhai o'r ffefrynnau ar gyfer prif wobr y byd seiclo ar y cymal hwn, gyda disgwyl gweld beicwyr fel Tadej Pogacar, Jonas Vingegaard a Remco Evenepoel ar strydoedd Cymru.

"Mae'n hollbwysig i ni i gael cystadleuwyr y GC yn mynd benben â'i gilydd yn ystod y Grand Departs – a dyma fydd yn digwydd," meddai.

"Mae'r cymal hwn yn bwysig iawn achos fe fydd e'n heriol iawn.

"Fe fydd yna feicwyr hyderus - ond mi fyddan ni yn sicr yn gweld arweinwyr y timau a'r seiclwyr fydd eisiau ennill y Tour yn ystod cymal tri.

"Dydyn ni ddim yn gwybod y canlyniad wrth gwrs, ond dwi'n credu y bydd 'na grys melyn newydd ar ôl cymal tri."

Wout Van Aert, Tadej Pogacar a Jonas Vingegaard Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i fawrion y byd seiclo gystadlu yn y ras ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf

Ynghyd â chynlluniau'r daith, mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi cadarnhau penodiad Thomas fel llysgennad seiclo i Gymru.

"Fe yw un o'n hathletwyr mwyaf llwyddiannus, yn ffigwr byd-enwog yn y gamp a dwi'n credu ei fod yn ymgorffori'r enaid a'r penderfynoldeb sy'n gwneud Cymru yn le mor unigryw," meddai Ms Morgan.

Awgrymwyd hefyd y byddai yna rôl i'r gyn-bencampwraig byd ac Olympaidd ar yr hewl Nicole Cooke.

Er nad yw Cymru wedi'i chynnwys yn rhan o gymalau'r Tour de Feminin fydd yn cael ei gynnal yn y DU yn hwyrach ym mis Gorffennaf 2027, roedd Morgan yn ymddangos yn awyddus i'w chynnwys, gyda Thomas yn ei disgrifio fel "ysbrydoliaeth".

"Dwi'n meddwl bod hi'n hollbwysig ein bod ni'n cael merched ifanc mewn i chwaraeon... ac fe fyddai cael rhywun fel Nicole yn sicr yn ysbrydoli rhan wahanol o'r gymdeithas," ychwanegodd Thomas.

Dadansoddiad

Mae'r ffaith bod y Tour de France yn dod i Gymru yn 2027 yn mynd tu hwnt i chwaraeon yn unig. Mae'n gyfle strategol i adeiladu ar lwyddiant Geraint Thomas, denu mwy i'r gamp a manteisio ar gyfleon twristiaeth.

I Beicio Cymru ac i Lywodraeth Cymru mae'r cymal o ganolbarth Cymru i Gaerdydd yn llwyfan i hybu teithio actif, gwella seilwaith a dangos bod seiclo yn rhywbeth i bawb, nid athletwyr elît yn unig.

Yr hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf yw'r sylw a'r ffaith y bydd llygaid y byd ar Gymru.

Does yr un digwyddiad chwaraeon yn gallu gwerthu gwlad fel y Tour. Oriau o ddarlledu, a lluniau hyfryd o'r hofrenyddion yn troi tirluniau yn asedau marchnata.

Y mynyddoedd, yr arfordir, y cymoedd a'r brifddinas - bydd y rhain i gyd yn cael eu gweld o amgylch y byd.

Mae Cymru eisoes yn arbennig yn weledol - ond be' fydd y Tour yn ei wneud yw dangos hynny i filiynau o bobl yn Ewrop, Asia a'r Unol Daleithiau.

Yr hyn sydd ei angen nawr yw gwneud y mwyaf o'r sylw yma - cyd-lynu ymgyrchoedd, troi gwylwyr yn ymwelwyr a sicrhau bod Cymru yn gwneud y mwyaf o'r cyfle yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.