Cyhoeddi llwybr y Tour de France yng Nghymru yn 2027

Tour de FranceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

2027 fydd y tro cyntaf erioed i'r Tour de France ymweld â Chymru

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr y Tour de France wedi cyhoeddi llwybr y ras wrth iddi ymweld â Chymru am y tro cyntaf erioed yn 2027.

Daeth i'r amlwg y llynedd y byddai ras seiclo enwoca'r byd yn dod i Gymru y flwyddyn nesaf, ond doedd yr union leoliadau heb gael eu cadarnhau.

Fe fydd y cymal yng Nghymru - trydydd cymal y ras, a'r olaf yn y DU - yn dechrau yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf.

Bydd y ras yn teithio trwy ardaloedd fel Llanfair-ym-Muallt, Aberhonddu a Merthyr Tudful, ac mae wyth dringfa ar y llwybr 223km, gan gynnwys Mynydd Caerffili tua'r diwedd.

Map o lwybr trydydd cymal y Tour de France yn 2027
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd llwybr trydydd cymal y Tour de France yn 2027

Bydd tri chymal o ras y dynion yn cael eu cynnal yn y Deyrnas Unedig yn 2027, gyda'r Grand Départ - dechrau'r cymal cyntaf - yng Nghaeredin.

Fe fydd y cymal cyntaf yn teithio i Gaerliwelydd, tra bod yr ail gymal yn gweld y ras yn mynd o Keswick yn Ardal y Llynnoedd i Lerpwl.

Bydd y trydydd cymal yng Nghymru, cyn i'r ras symud i Ffrainc ar gyfer y 18 cymal arall.

PowisFfynhonnell y llun, PA

I ddathlu'r cyhoeddiad, cafodd Castell Caerdydd a Chastell Powis eu goleuo'n felyn nos Lun - cyfeiriad at liw y crys enwog y mae arweinydd y Tour yn ei wisgo.

Fe fydd rhan o ras y merched - y Tour de France Femmes - hefyd yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf, ond does dim cymalau o'r ras honno yng Nghymru.

Disgrifiad,

Beth yw'r farn yn Y Trallwng ar ymweliad y Tour de France yn 2027?

Pam bod y Tour yn gadael Ffrainc?

Mae cymal cyntaf y Tour de France wedi cael ei gynnal y tu allan i Ffrainc ar 26 achlysur, gan gynnwys yn Llundain yn 2007 a Leeds yn 2014.

Mae 11 o wledydd wedi croesawu'r ras ers iddi gael ei chynnal y tu hwnt i ffiniau Ffrainc am y tro cyntaf yn 1954 - yn Amsterdam bryd hynny.

Mae'r Grand Départ wedi dechrau yn Florence yn Yr Eidal, Bilbao yn Sbaen, Copenhagen yn Nenmarc a Brwsel yng Ngwlad Belg yn y blynyddoedd diweddar.

Os yw'r ras yn dechrau y tu allan i Ffrainc, mae ychydig gymalau cyntaf y Tour yn cael eu cynnal yno fel arfer, cyn dychwelyd i Ffrainc - fel yw'r achos yn 2027.

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yw'r unig Gymro i ennill y Tour, a hynny yn 2018

I gyd-fynd â'r cyhoeddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu y bydd Geraint Thomas - enillydd y Tour yn 2018 - yn cymryd rôl newydd fel "Llysgennad Beicio Cymru" yn y cyfnod cyn ymweliad y ras.

Yn ôl y llywodraeth, bydd Thomas yn gweithio gyda chorff Croeso Cymru i "helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan seiclo fyd-eang".

Y gobaith yw ysbrydoli beicwyr ifanc o Gymru a "gwneud y mwyaf o fanteision hirdymor cynnal Le Tour i Gymru".

Dywedodd Thomas: "Mae'r Tour yn dod i Gymru yn enfawr – mae'r ffyrdd, y dringfeydd hyn a'r cefnogwyr hyn wedi'u gwneud ar gyfer beicio, a nawr mae'r byd yn cael gweld hynny.

"Alla i ddim aros i chwarae fy rhan yn croesawu'r Tour, ysbrydoli beicwyr hen ac ifanc, a helpu i wneud hyn yn foment na fydd Cymru byth yn ei anghofio."

Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Morgan fod cynnal y Tour yn "gyfle arbennig i gael llygaid y byd ar ein gwlad ni"

Ychwanegodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod "cynnal y Tour De France yn gwireddu breuddwyd i gefnogwyr beicio Cymru".

"Gyda dringfeydd ffyrdd epig, lonydd gwledig tawel, beicio mynydd anhygoel a llwybrau di-draffig, mae Cymru'n cynnig rhywbeth i bob beiciwr," meddai.

"Bydd ein hamrywiaeth o gyfleoedd beicio ar draws pob disgyblaeth o'r gamp yn cael eu harddangos i gynulleidfa fyd-eang yn ystod y Tour, ynghyd â diwylliant unigryw Cymru, tirweddau epig, atyniadau eiconig a'r croeso gorau erioed.

"Nid yn unig y bydd y Tour yn dod i Gymru yn brofiad cyffrous i gefnogwyr beicio ledled y byd, mae'n gyfle amhrisiadwy i ddangos golygfeydd syfrdanol Cymru a'r llwybrau beicio rhagorol i gynulleidfa fyd-eang."

Eifion Weinzweig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eifin Weinzweig yn dweud y bydd y cymal yng Nghymru'n heriol i'r beicwyr ond yn achlysur "anhygoel"

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fe ddywedodd y cyn-feiciwr proffesiynol Eifion Weinzwig bod yr achlysur yn mynd i fod yn un "enfawr" ac yn ddigwyddiad dyw'r Trallwng heb ei weld ei fath o'r blaen.

"Pan oedd e yn Yorkshire, roedd dros filiwn o bobl ar ochr yr hewl bob diwrnod" meddai.

Ond "dwi'n credu y byddwn ni'n gweld ychydig yn fwy yn dod i Gymru.

"Ti'n cael 30% o boblogaeth y wlad ar ochr yr hewl yn gwylio'r Tour de France.

"Mae'n anhygoel."

Esboniodd y bydd y cymal yn un heriol hefyd i'r beicwyr gan fod "yr hewlydd yn wahanol yng Nghymru".

"Maen nhw'n mynd lan a lawr" a disgrifiodd beicio lan trwy'r cymoedd fel "leg zapper".

"Mae mynd i fod yn galed iddyn nhw".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig