Ffrainc yn ennill yn hawdd o flaen torf leiaf Cymru erioed yn y Chwe Gwlad

Roedd ychydig dros 57,700 yn bresennol ddydd Sul sef y nifer isaf erioed ar gyfer gêm gartref i Gymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli'n drwm gartref yn erbyn Ffrainc gyda'u torf leiaf erioed ar gyfer gêm ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y sgôr terfynol oedd 54-12 ar gyfer eu hail gêm yn y bencampwriaeth eleni, gyda Rhys Carre a Mason Grady yn sgorio i Gymru.
Roedd 57,744 yn bresennol ddydd Sul sef y nifer isaf erioed gan Gymru yn y bencampwriaeth hon - 58,349 oedd y nifer isaf cyn hynny mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2002.
Fe gollodd y tîm cenedlaethol o 48-7 yn erbyn Lloegr yn eu gêm agoriadol ac nawr maen nhw'n wynebu'r Alban - sydd newydd guro Lloegr o 31-20 - ddydd Sadwrn nesaf.

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi colli 13 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad
Dechreuodd y ffefrynnau'n gryf ac fe sgorion nhw eu cais cyntaf o fewn munud a hanner. Ar ôl rhedeg o'u hanner eu hun y canolwr Émilien Gailleton orffennodd y symudiad.
Daeth yr ail gais i Ffrainc yn weddol gloi gyda'r maswr Matthieu Jalibert yn cicio i'r gornel a'r asgellwr Louise Bielle-Biarrey yn aros amdani. Fe fethodd y cefnwr, Thomas Ramos y trosiad ac felly roedd y sgôr yn 12-0 ar ôl 12 munud.
Dwy funud aeth heibio yn unig cyn y cais nesaf i'r Ffrancwyr - a'r canolwr ifanc, Fabien Brau-Boirie, sgoriodd ac yntau'n cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.
Fe gafodd Cymru gymal mwy cadarnhaol hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf gyda Rhys Carre yn cario a chroesi er mwyn rhoi Cymru ar y sgorfwrdd.
Fe giciodd Dan Edwards y trosiad i'w gwneud hi'n 19-7.
Asgellwr Ffrainc, Théo Attissogbe, darodd yr ergyd nesaf a hynny ar ôl hanner awr ond fe gafodd y cais ei wrthod gan ei fod yn camsefyll.
Gyda Chymru dan bwysau am ran fwyaf o'r hanner cyntaf fe ddaeth camgymeriad arall eiliadau cyn i bawb adael y cae a arweiniodd at y maswr Jalibert yn croesi er mwyn cadarnhau'r pwynt bonws.
Y sgôr ar yr hanner felly'n 26-7 i Ffrainc.

Ar ddechrau'r ail hanner fe ddaeth Ffrainc allan â'r un egni a'r hanner cyntaf.
Fe sgorion nhw eu pumed cais o fewn munudau gyda'r blaenwyr y tro yma'n hyrddio drosodd a'r bachwr, Julien Marchand yn sgorio. Ramos yn trosi i'w gwneud hi'n 33-7.
Gyda Chymru'n edrych wedi blino fe groesodd asgellwr Ffrainc, Attissogbe am gais arall - a'r tro yma mae'n sefyll. Daeth eilyddion ymlaen i'r ddau dîm.
Cafodd amddiffyn Cymru ei ddal yn gul cyn yr awr, ac Attisgobe yn sgorio eto ar ôl cic ar draws y cae gan Jalibert. Ramos yn trosi er mwyn gwneud y sgôr yn 47-7.
Y blaenwr, Charles Ollivon, sgoriodd nesaf er mwyn dathlu ei hanner canfed gêm dros ei wlad gyda chais.
Fe gafodd Gymru gyfnod o roi pwysau ar yr ymwelwyr cyn diwedd y gêm ac ar ôl mynd trwy'r cymalau ar linell Ffrainc fe gafodd yr eilydd, Mason Grady'r bêl ar blât.
Fe fethodd Jarrod Evans y trosiad ac felly'r sgôr terfynol oedd Cymru 12 - 54 Ffrainc.
Trefn gemau Cymru
Cymru v Yr Alban - Dydd Sadwrn 21 Chwefror (16:40)
Iwerddon v Cymru - Dydd Gwener 6 Mawrth (20:10)
Cymru v Yr Eidal - Dydd Sadwrn 14 Mawrth (16:40)
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd7 Chwefror

- Cyhoeddwyd5 Chwefror
