Degau o filoedd o docynnau heb eu gwerthu ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad

Seddi gwag yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd yn Nhachwedd 2025
- Cyhoeddwyd
Mae degau o filoedd o docynnau yn parhau i fod heb eu gwerthu ar gyfer gweddill gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Fel rheol mae mwyafrif y tocynnau os nad holl docynnau y gemau yn cael eu gwerthu.
Fore Gwener roedd tua 15,000 o seddi dal i fod heb eu llenwi ar gyfer y gêm brynhawn Sul yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Principality - dydy'r nifer yma ddim yn cynnwys y tocynnau na sydd wedi'u gwerthu gan y clybiau.
Mae 6,625 o docynnau heb eu gwerthu ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Yr Alban ar 21 Chwefror ac mae 27,091 o docynnau ar ôl ar gyfer Cymru yn erbyn Yr Eidal ar 15 Mawrth.
Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod yn cydnabod bod arferion prynu wedi newid, ond ychwanegon nhw bod "dros 1,000 o docynnau wedi eu gwerthu bob dydd yr wythnos hon" ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc.
Y farn yng Nghaernarfon yn sgil diffyg gwerthiant tocynnau gemau'r Chwe Gwlad
Mae prisiau'r tocynnau yn amrywio o £40 i £120 - maen nhw'n gallu amrywio fesul gêm ac mae consesiynau fel pris gostyngol i fyfyrwyr yn golygu ei fod yn anodd mesur maint y golled ariannol i Undeb Rygbi Cymru.
Mae incwm ychwanegol hefyd yn cael ei wneud ar ddyddiau gemau drwy werthiant bwyd a diod, a nwyddau yn y stadiwm.
Dywedodd Seimon Williams, sy'n awdur a cholofnydd sy'n ysgrifennu am rygbi yng Nghymru, y gall cymaint o seddi gwag gael effaith negyddol ar y gymdeithas.
"Dwi'n meddwl bod tri ffactor, mae cost y tocynnau yn reit ddrud ac mae'n rhaid i'r undeb godi'r gost er mwyn cynnal y gêm," meddai.
"Mae safon y chwarae ar y cae ers ennill y bencampwriaeth bum mlynedd yn ôl.. mae Cymru wedi chwarae 21 o gemau ac ennill dwy, felly dydy hwnna ddim yn denu cefnogwyr.
"A hefyd mae elfen o ddadrithiad gyda gweinyddiad yr undeb ar hyn o bryd a'r cynigion o ran torri nifer y clybiau proffesiynol."

Colli o 48-7 oedd hanes Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham brynhawn Sadwrn
Gyda gwethiant tocynnau rhyngwladol yn dod ag incwm sylweddol i'r undeb, ychwanegodd Seimon Williams bod seddi gwag yn golygu "twll sylweddol yn y coffrau" ac y gall gael "effaith bellgyrhaeddol ar y gêm broffesiynol a chymunedol".
"Mae'n gêm fwy dosbarth gweithiol yng Nghymru nac yn Lloegr, Iwerddon a'r Alban - mae'r tocynnau yn tueddu i fod ychydig yn rhatach yn fan hyn," meddai.
"Ond mae pwysau arnyn nhw oherwydd dyma'r peiriant sy'n gyrru incwm yr undeb... mae'n dalcen eitha caled iddyn nhw."
Ychwanegodd: "Hefyd llynedd roedd gynnon ni Lloegr ac Iwerddon ac maen nhw'n dod â lot o gefnogwyr gyda nhw... tro yma mae yna dair gêm, y gost a'r safon ar y cae a'r ffaith bod llai o gefnogwyr o dramor yn teithio - y cyfan yn dod at ei gilydd i effeithio ar y gwerthiant."

Seimon Williams yng Nghlwb Rygbi Caernarfon
Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae llawer o glybiau llawr gwlad dal i geisio gwerthu eu tocynnau clwb er mwyn peidio â gwneud colled ariannol.
Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Penarth, Sean O'Sullivan, nad yw'r gost ei werth o i gefnogwyr a bod "dirywiad cyson" wedi bod yn y galw am docynnau.
"Wyth mlynedd yn ôl roedden ni'n cymryd pob tocyn ar gyfer pob gêm gan gynnwys yr Eidal," meddai ac ychwanegodd mai cost oedd y rheswm pennaf am y diffyg diddordeb gan bod prisiau wedi "saethu i fyny".
"Os ydych chi'n mynd â phlant 10 oed i'r gêm, rydych chi'n mynd am yr awyrgylch, nid o reidrwydd am y gêm.
"Mae'n ddiwrnod drud... gallwch chi fynd i Baris am yr un pris"
"Fel teulu, rydyn ni'n mynd i sgïo yng Ngwlad Pwyl am ddeuddydd, sydd ddim yn costio llawer mwy i ni na mynd i Gaerdydd, pan yn ystyried y bwyd a'r diod."
'Y cefnogwyr mwyaf ffyddlon yn y byd'
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Gavin Marshall: "Mae arferion prynu tocynnau, heb os, yn newid ac mae gwerthiant wedi cyflymu ers dechrau'r bencampwriaeth eleni gyda dros 1,000 o docynnau wedi eu gwerthu bob dydd yr wythnos hon ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc.
"Mae ganddon ni rai o'r cefnogwyr mwyaf ffyddlon yn y byd yng Nghymru ac rydym yn gwybod y byddan nhw'n canu'n uchel brynhawn Sul ar gyfer yr anthem acapella, i helpu i wneud y mantais cartref gyfrif.
"Rydym bob amser yn gweithio'n galed i lenwi Stadiwm y Principality ac rydym yn hyderus y bydd y dorf yn creu profiad diwrnod gêm anhygoel arall i bawb sy'n cymryd rhan."

Y gobaith yw i weld y stadiwm dan ei sang unwaith eto ar gyfer gemau rhyngwladol
Mae Seimon Williams yn rhagweld y gall fod yn dalcen caled yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd: "Mae llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol dros y ddegawd diwetha', a'r profiad hefyd dwi'n meddwl... maen nhw [y cefnogwyr] yn eistedd i lawr yn ystod y ddwy awr ac maen nhw'n gwylio'r gêm a ddim yn mynd a dod i'r bar.
"Mae'r tocynnau dipyn rhatach i'r pêl-droed, mae i gyd yn dod at ei gilydd i greu sefyllfa lle mae rygbi mewn peryg o golli grip ar gefnogwyr y wlad.
"Mae'n edrych fel sefyllfa reit anodd i droi hyn rownd ar hyn o bryd, ond wedi dweud hynny chwarter canrif yn ôl mi welon ni rywbeth tebyg iawn ac o fewn dwy neu dair blynedd roedd y stadiwm yn orlawn ac roedd pethau'n edrych yn lot gwell."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd7 Chwefror

- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2024
