Chwe Gwlad: Pedwar newid i dîm Cymru a Hawkins yng nghanol cae

Joe HawkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canolwr Joe Hawkins yn chwarae yng nghanol y cae

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr Cymru wedi gwneud pedwar newid ar gyfer ei dîm i wynebu Ffrainc yn eu hail gêm yn y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Mi fydd y canolwr Joe Hawkins yn chwarae yng nghanol y cae gyda Rhys Carre a Tomas Francis yn dod i mewn i'r rheng-flaen ac yn ogystal bydd yr wythwr Olly Cracknell yn cael cyfle.

Fe gafodd Cymru eu trechu gan Loegr yn eu gêm agoriadol ddydd Sadwrn diwethaf yn Twickenham gan golli o 48 i 7.

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi colli 12 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad ac yn wynebu Ffrainc yn eu gêm nesaf ar ddydd Sul, 15 Chwefror.

Mae Ffrainc yn dod i Gaerdydd yn llawn hyder ar ôl curo Iwerddon yn eu gêm agoriadol nhw o'r gystadleuaeth a hynny o 36-14.

Antoine Dupont a Louis Bielle-BiarreyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae enwau mawr Ffrainc i gyd yn chwarae gan gynnwys Antoine Dupont a Louis Bielle-Biarrey

Mae'r bachwr Ryan Elias a'r maswr Jarrod Evans hefyd yn ymuno â'r garfan ar y fainc.

Mi fydd Elias, sy'n 31 oed ac yn chwarae i'r Scarlets yn chwarae am y tro cyntaf o dan Steve Tandy ac yn ennill cap rhif 45 os daw ymlaen ar gyfer y capten Dewi Lake.

Mae enwau mawr Ffrainc i gyd yn chwarae - gan gynnwys y sêr yn rhif 9 a 10, Antoine Dupont a Matthieu Jalibert.

Dau newid sydd i'w tîm - a gurodd Iwerddon wythnos ddiwethaf - gyda'r canolwr ugain oed, Fabien Brau-Boirie, yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.

Tim CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Cymru o 48 i 7 yn erbyn Lloegr yn Twickenham

Tîm Cymru:

Rees-Zammit; Mee, James, Hawkins, Adams; Edwards, T Williams; Carre, Lake (capt), Francis, Jenkins, Beard, Wainwright, Mann, Cracknell.

Eilyddion: Elias, Smith, Griffin, Carter, Plumtree, Hardy, J Evans, Grady.

Tîm Ffrainc:

Ramos; Attissogbe, Gailleton, Brau-Boirie, Bielle-Biarrey; Jalibert, Dupont (capt); Gros, Marchand, Aldegheri, Ollivon, Guillard, Cros, Jegou, Jelonch.

Eilyddion: Lamothe, Neti, Montagne, Flament, Meafou, Nouchi, Serin, Nene.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.