Newidiadau i'r Chwe Gwlad ar gyfer 2026

Mi fydd y Chwe Gwlad eleni yn cychwyn ar nos Iau, 5 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Tydi'r Chwe Gwlad heb newid ryw lawer dros y blynyddoedd, tan eleni.
Mae'n cael ei chynnal ym mis Chwefror a mis Mawrth bob blwyddyn. Does 'na ddim newidiadau mawr wedi bod ers 2000 ers i'r Eidal ymuno'r â'r bencampwriaeth.
Mae Georgia yn teimlo y dylse nhw gael y cyfle i fod yn rhan o'r gystadleuaeth - ond does 'na ddim byd wedi deillio o hynny.
Ond mi fydd pethau ychydig bach yn wahanol i'r drefn arferol eleni.
Pam chwarae ar nos Iau?
Mi fydd gêm gyntaf y bencampwriaeth yn cael ei chwarae ar nos Iau, 5 Chwefror, gyda Ffrainc yn herio Iwerddon ym Mharis.
Mae gemau wedi cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener yn rheolaidd ers 17 o flynyddoedd - yn dyddion ôl i'r gêm rhwng Ffrainc a Chymru yn 2009.
Ond mae popeth yn cychwyn nos Iau eleni oherwydd fod seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Y Gaeaf Milan-Cortina yn digwydd nos Wener.
Felly yn sgil hynny mae'r gêm rhwng Y Ffrancwyr a'r Gwyddelod yn digwydd 24 awr yn gynt fel nad yw'r ddau beth ymlaen ar y teledu yr un pryd.
Cennydd Davies
Er mai dyma'r tro cyntaf i gêm Chwe Gwlad gael ei chwarae ar nos Iau, mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol yn ystod Pencampwriaeth y Pum Gwlad.
Mae'n rhaid mynd nôl i 1948, ac yn ddigon rhyfedd y gêm oedd Ffrainc yn erbyn Iwerddon ym Mharis.
Iwerddon enillodd y gêm honno, gan fynd yn eu blaenau i ennill y Gamp Lawn. Mi fydd y cefnogwyr mewn gwyrdd yn gobeithio y bydd hanes yn ail-adrodd ei hun 78 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Chwarae dros gyfnod o chwe wythnos

Mae Steve Tandy yn paratoi i arwain Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf
Y newid mwyaf eleni ydi'r ffaith y bydd y bencampwriaeth yn cael ei chwarae dros gyfnod o chwe wythnos yn hytrach na saith.
Dim ond un penwythnos o orffwys fydd y chwaraewyr yn ei gael a hynny rhwng y drydedd a'r bedwaredd gêm.
Tydi hynny ddim yn swnio fel newid mawr, ond fe all fod yn un sylweddol.
Ers 2003 mae'r gystadleuaeth wedi cael ei chwarae dros saith wythnos. Cyn hynny mi oedd hi'n gallu cymryd hyd at 10 wythnos i chwarae'r holl gemau.
Mae cynnal y Chwe Gwlad dros gyfnod o chwe wythnos yn rhywbeth sydd wedi bod dan ystyriaeth ers rhai blynyddoedd. Mi gafodd y syniad ei drafod yn 2017 - ond doedd y chwaraewyr ddim o blaid yr holl beth - felly fe benderfynwyd cadw pethau fel yr oeddent.
Ond am un rheswm neu'r llall mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud y tro hwn i gynnal popeth dros gyfnod llai o amser.

A'i Lloegr fydd yn elwa fwyaf o chwarae'r bencampwriaeth dros gyfnod o chwe wythnos?
Sut ymateb sydd wedi bod i'r penderfyniad?
Mae'n bosibl dadlau y bydd hyn yn ffafrio Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon gan fod gan y dair wlad yna fwy o ddyfnder o fewn eu carfanau.
Gyda'r gemau i gael eu chwarae dros gyfnod byrrach o amser mae'n anochel y bydd anafiadau yn chwarae mwy o ran yn y gystadleuaeth eleni.
Mae hi'n gofyn lot i chwaraewyr chwarae tair gêm mewn tair wythnos. O safbwynt Cymru mae eu dwy gêm gyntaf yn erbyn Lloegr a Ffrainc - y ddau dîm mwyaf corfforol yn y bencampwriaeth.
Tybed faint o anafiadau a phrofion pen fydd y chwaraewyr wedi ei gael erbyn y drydedd gêm yn erbyn Yr Alban? Mae hi'n anhebygol dros ben y bydd Cymru'n gallu enwi eu tîm cryfaf ar gyfer ymweliad Yr Albanwyr i Gaerdydd.
"Yn sicr mi fydd yn rhaid i ni ymdopi gydag anafiadau a blinder, ond mi fydd hynny wedyn yn creu cyfleoedd i chwaraewyr eraill," meddai prif hyfforddwr Cymru Steve Tandy.
"Mi fydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cymryd gofal o'r chwaraewyr yn ystod y sesiynau ymarfer cyn gemau."

Prop Cymru Gareth Thomas yn derbyn triniaeth wedi iddo ddioddef anaf i'w ben
Mae cyn-gapten Yr Alban John Barclay yn meddwl y bydd yr amserlen newydd yn cael effaith mawr ar y bencampwriaeth eleni.
"Dwi'n poeni am Yr Alban, Cymru a'r Eidal achos does ganddyn nhw ddim y dyfnder i ymdopi gyda gormod o anafiadau," meddai Barclay.
"Dwi'n cofio chwarae yn erbyn Ffrainc ym Mharis naw mlynedd yn ôl, a saith o'n chwaraewyr yn cael profion am anaf i'r pen.
"O leiaf yn y gorffennol mi oedd chwarae dros gyfnod o saith wythnos yn rhoi mwy o gyfle i chwaraewyr wella o anafiadau."
Mae'r Chwe Gwlad dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai i'w anghofio i Gymru yn cael y llwy bren ar y ddau achlysur.
Gyda beth sy'n digwydd eleni mae hi'n mynd i fod yn dasg hyd yn oed anoddach iddyn nhw fod yn gystadleuol yn erbyn gwledydd fel Lloegr a Ffrainc.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Ionawr

- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2025
