Pam bod eliffant a chastell ar symbol tref Pwllheli?

Murlun
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd murlun gyda fersiwn newydd o'r symbol ei ddadorchuddio ar un o waliau'r dref yn gynharach fis yma

GanGwydion ap Llyr Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Does dim tystiolaeth yn awgrymu bod eliffantod modern wedi bodoli'n gynhenid yng Nghymru, ond eto, eliffant sydd ar arfbais hanesyddol tref Pwllheli, a chastell ar ei gefn.

Mae'r ysgol uwchradd, y cyngor a'r clwb pêl-droed lleol ymysg y rhai sy'n ei defnyddio, ac mae hanes y symbol wedi bod yn destun anghytuno yn y gorffennol.

Un sydd â diddordeb mawr mewn hanes lleol a hanfod y dyluniad unigryw yma ydy Geraint Jones o Lannor, a bu'n esbonio'r arwyddocâd i BBC Cymru Fyw.

Mae Geraint yn dweud ei bod hi'n debygol bod y symbol yn gwreiddio o'r canol oesoedd yn y 14eg ganrif, mewn cyfnod pan mai'r Goron Saesnig oedd yn rheoli Cymru.

'Amynedd, doethineb a sefydlogrwydd'

Rhoddodd Edward Y Tywysog Du siarter frenhinol i Bwllheli yn 1355, oedd yn golygu ei bod hi'n fwrdeistref siartredig wedi hynny.

Dywedodd Geraint fod hynny wedi rhoi statws arbennig i'r dref, gan ganiatáu cynnal ffeiriau ar ddyddiadau penodol, marchnadoedd a llywodraethu'n lleol.

Yn ôl darn gan J Eric Williams ar wefan y cyngor, mae'n debygol mai Saeson oedd rhai o'r masnachwyr hynny, gan fod Owain Glyndŵr wedi ymosod ar y dref yn 1401.

Dywedodd Geraint mai adeg derbyn y statws yma gan Edward oedd dechrau defnydd Pwllheli o'r symbol, gyda'r castell yn "dangos amddiffyniad a chadernid mewn ffordd".

"O'dd yr eliffant yn symbol o amynedd, doethineb a sefydlogrwydd.

"O'dd o'n dangos y statws: 'Ni ydy Pwllheli, da' ni'n bwysig', math o beth."

Geraint JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"O'dd yr eliffant yn symbol o amynedd, doethineb a sefydlogrwydd. O'dd o'n dangos y statws," meddai Geraint Jones

Esboniodd Geraint fod rhai pobl yn dweud bod cyfuniad y ddwy elfen yn y dyluniad o bosib yn dod o hen luniau Indiaidd o eliffant gyda howdah (sêt) ar ei gefn.

"Ma' rhai'n d'eud ma' dyna ydy'r llun gwreiddiol ohona' fo, a bod o 'di cael ei newid wedyn i gastell - sy' reit ddiddorol dwi'n meddwl."

Er pa mor unigryw ydy'r dyluniad, nid Pwllheli ydy'r unig le sydd wedi gwneud defnydd ohono ar un adeg, meddai Geraint.

"Dwi'n siŵr fod 'na amryw o lefydd eraill ym Mhrydain wedi'w ddefnyddio fo.

"Dwi'n meddwl fod Coventry wedi'i ddefnyddio fo, a chwmni g'neud cutlery yn Llundain."

'Rhoi dipyn o sbarc i'n tref ni'

Ychwanegodd Geraint: "Dwi'n meddwl fod o'n beth da. Ma' rhai pobl yn cwestiynu be' ydy ei bwrpas o - be' s'gen eliffant i 'neud hefo Pwllheli? A bod o'n mynd n'ôl i ddyddia' coloneiddio.

"Ond i mi, mae o'n wbath diddorol i godi sgwrs am y peth.

"Ma' siŵr fod 'na bobl ddiarth yn cerdded heibio ac yn meddwl: 'Pam fod 'na lun eliffant ar ochr lôn?' Felly mae o'n codi ymwybyddiaeth o'r ardal ei hun.

"Ella bo' pawb ddim yn cytuno hefo fo, ond dwi wrth fy modd hefo hanes lleol ac yn coelio'n gry' - be' bynnag sy' 'di digwydd yn y gorffennol - hanes ydy o."

Ychwanegodd Geraint fod y ddelwedd yn "rhoi dipyn o sbarc i'n tref ni ac mae o reit unigryw".

Theori arall ydy bod sêl (seal) wedi'i greu o gŵyr gyda llun gafr arno yn bodoli ar un adeg, ond iddo gael ei golli mewn tân.

Yn ôl yr hanes hwnnw, daethpwyd o hyd i hen sêl mewn plasty lleol yn 1857, oedd yn dangos llun yr eliffant a'r castell ar ei gefn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol