Cwmni drama o Ben Llŷn yn 'cofio a dathlu' 60 mlynedd o berfformio

Cast diweddaraf Cwmni drama Llwyndyrys yn perfformio'r ddrama gomedi 'O lofft i lofft'
- Cyhoeddwyd
Mae'n flwyddyn fawr i Gwmni Drama Llwyndyrys ym Mhen Llŷn wrth i'r cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 60.
Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn 1966 ac mae wedi bod yn perfformio bron yn ddi-dor ers hynny.
I ddathlu, maen nhw wedi penderfynu atgyfodi drama a berfformiwyd gyntaf ganddyn nhw ym 1987.
Fe fydd y criw yn perfformio 'O lofft i lofft', addasiad Cymraeg gan Eleri Hughes o ddrama Alan Ayckbourn, 'Bedroom Farce', o amgylch Pen Llŷn, Ardudwy a Chaernarfon dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Y cwmni wedi iddyn nhw berfformio un o ddramâu William Owen, Borth-y-gest
Mae cynhyrchydd a chyfarwyddwr y cwmni, Richard Hughes, neu Dic Penfras fel mae'n cael ei adnabod, yn cofio drama gynta'r criw yn cael ei berfformio.
Yn siarad efo Mari Grug ar raglen Bore Cothi, dywedodd Mr Hughes ei fod wedi gweld "llun ar Facebook o'r cwmni drama yn cystadlu efo'r Ffermwyr Ifanc yn Llanrwst yn 1966 ac ro'n i'n gwybod mai honno oedd y ddrama gyntaf roedden nhw wedi'i gwneud fel cwmni".
"Roedden nhw di bod yn gwneud ambell i gynhyrchiad bach yn y capel cyn hynny - roedd 'na ddrama o'r enw 'Y Trydydd Dydd' - felly o hynny mlaen, mi ddatblygodd y cwmni," meddai.
"Feddyliais i y bydde'n dda gwneud rhywbeth eleni, i gofio am y cwmni a dathlu trigain mlynedd a mwy o fodolaeth."
'Y clod mwyaf yn mynd i Gwilym'

Gwilym Griffith, neu Gwilym Plas, gyda Stewart Jones, cyfaill agos i'r cwmni
Ers y blynyddoedd cynnar, Gwilym Griffith, neu Gwilym Plas oedd yn arwain y cwmni.
"Pan ddois i yma i fyw i Lwyndyrys yn 1974," cofia Richard Hughes, "roedd Gwilym yn arwain côr ac yn cynhyrchu dwy ddrama fer yn aml iawn bob blwyddyn".
"Mi wnaeth o ofyn i mi tua '76, 'sgen ti awydd ymuno efo'r côr?', 'wel, na', meddwn i, 'se well gen i ymuno efo'r cwmni drama' a dyna sut ges i fy machu mewn.
"Gwilym oedd tu ôl y cyfan yr adeg honno ac mi fuodd o wrthi tan tua 10 mlynedd yn ôl pan ddaru o ofyn i fi gymryd drosodd, felly mae'r clod mwyaf yn mynd i Gwilym am gynnal y cwbl dros y blynyddoedd."

Cast 'Yr Etholedig Arglwyddes' gan Harri Parri
Yn 1978 fe enillodd y cwmni gystadleuaeth y ddrama fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol a mynd yn eu blaenau i gipio'r wobr am dair blynedd yn olynol.
"Gawsom ni bobl fel Charles Williams, oedd wedi bod yn beirniadu, i ddod atom ni am dro, roedd Gwilym efo'r ddawn i gael pobl draw i'n helpu ni."
Fe ddaeth y dramodydd, John Gwilym Jones at y cwmni hefyd, gan eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn perfformio'i ddrama, 'Tri chyfaill'.
"Mi wnaeth o roi lot o bwyntiau i ni ac yna mi ddywedodd‚ 'gwrandewch bois, mae eisiau i chi ddechrau actio dramâu hirion rŵan', a dyna wnaethpwyd."

John Gwilym Jones a'r criw yn dathlu llwyddiant perfformiad o 'Tri Chyfaill'
Wedi'r llwyddiant yn yr Eisteddfod, fe wnaeth y cwmni drama roi'r gorau i gystadlu a mynd ati i lwyfannu eu perfformiadau eu hunain.
"Yn gyntaf, fe gawsom ni'r fraint o'r Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn i ni lwyfannu drama William Owen, 'Tewach Dŵr' oedd 'di ennill yn y Steddfod flwyddyn cynt ac wedyn aethon ni 'mlaen i wneud lot o ddramâu gan William Owen," esboniodd Richard Hughes.
Bu'r criw yn perfformio nifer o ddramâu hirion, sylweddol, ac fe fuon nhw hefyd yn gofyn a chomisiynu nifer o ddramodwyr i ysgrifennu dramâu iddyn nhw, Iwan Edgar a Harri Parri yn eu mysg.

Criw Cwmni Drama Llwyndyrys wedi iddyn nhw berfformio 'O Lofft i Lofft' ym 1987
"Yn '87, fe benderfynon ni wneud drama ein hunain, yn Eisteddfod Porthmadog, a'i gwneud hi yn neuadd y dre ym Mhwllheli."
"Mi benderfynon ni drosi drama Saesneg, clasur o ddrama gan Alan Ayckbourn, 'Bedroom Farce' a'i throsi i'r Gymraeg a honno ydi'r ddrama 'dan ni'n gwneud eleni, "O lofft i lofft'.
"Ni wedi'i hatgyfodi hi, mae'n glasur o ddrama, yn oesol, mewn gwirionedd, er ei bod wedi'i gosod yn y 70au/80au... mae pobl a pherthynas pobl 'di aros yr un fath - s'dim lot o wahaniaeth yn hynny."
Cwmni'n denu actorion newydd
"Mae 'na wyth yn y cast, ac mae 'na rai newydd sbon sy' 'rioed 'di actio o'r blaen," esboniodd Richard Hughes.
Mae Dyfed Pritchard, athro yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli, yn un o'r rhai sy'n actio am y tro cyntaf ac felly hefyd, Steve Williams, sy'n dysgu Cymraeg, o'r Fflint yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Llithfaen, ac Elaria o Fynytho.
Ymysg y rhai mwy profiadol mae John Dilwyn Williams, Netta a Gwyn Pritchard, gŵr a gwraig o Fynytho; Mererid Owen, athrawes a gwraig fferm o Lecheiddior; a Bethan Pritchard o Lanaelhaearn.
Er mai wyth sy'n y cast, mae 14 yn rhan o'r cwmni, gan gynnwys saer i adeiladu'r set, dau i ofalu am y golau, un gyda'r sain ac eraill yn weinyddol.

Mae'r cwmni eisoes wedi perfformio'r ddrama yn Efail Newydd, a Nefyn, nos Wener fe fyddan nhw yn Nhrefor ac yna'n Chwilog ar y 27 Chwefror.
Fe fyddan nhw'n symud ymlaen i lwyfannu yn Nyffryn Ardudwy ar y 7 Mawrth ac yn Seilo, Caernarfon ar yr 21 Mawrth.
"Mae hi 'di cymryd amser i ddod â hon ymlaen. Roedden ni'n cychwyn ymarferion blwyddyn i fis Hydref diwethaf, wedyn mae 'di cymryd mwy 'na geni eliffant," esboniodd Richard.
"Y bwriad ydi cynnal diwylliant, rhoi adloniant a mwyniant i bobl, a chodi arian yr un pryd – mae hynna'n gweithio'n dda iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023

- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2024
