Ffermwyr Ifanc yn 90: Chwilio am y cadeiryddion coll dros y blynyddoedd

Mae 'na fylchau yng nghofnodion y mudiad o flynyddoedd cynnar
- Cyhoeddwyd
Wrth i fudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ddathlu pen-blwydd eleni yn 90 oed mae 'na ymgais i ddod o hyd i lun ac enw pob un o'r cadeiryddion ers y dechrau.
Does dim llawer o wybodaeth ar goll, ond mae manylion cadeiryddion y blynyddoedd cynnar yn brin.
"Ry'n ni'n chwilio'n benodol am luniau y rhai sydd mewn blychau porffor ac os yw'r lluniau yn bodoli bydden ni wrth ein bodd petai pobl yn medru eu hanfon aton ni," medd Rhianwen Jones, un o swyddogion y swyddfa ganolog.
"Mae eleni yn flwyddyn fawr i ni - a bydden ni wrth ein boddau yn cael darlun llawnach o'r 90 mlynedd.
"Rydyn ni, er enghraifft, yn chwilio am lun o Tom Lewis a J A George o Geredigion a fu'n gadeirydd am sawl blwyddyn - ry'n ni wedi cael llun ryw dri o'r 1960au ond mae 'na fylchau o hyd."

Mae cofnodion y blynyddoedd diweddar yn fwy cyflawn
Ymhlith y cadeiryddion ar hyd y blynyddoedd mae tad a merch - sef Gwynne Davies a'i ferch Caryl Haf o Landdewi Brefi yng Ngheredigion.
"Ro'dd e'n brofiad o'n ni wastad wedi breuddwydio amdano ers pan o'n i'n fach - o bosib am fy mod am ddilyn ôl troed Dad," meddai Caryl wrth siarad â Cymru Fyw.
"Cadeirydd clwb o'n i i ddechrau, cadeirydd sir wedyn yn cynrychioli Ceredigion ar bwyllgorau Cymru ac yna cadeirydd Cymru rhwng 2021 a 2022.
"Cyn hynny ro'n i wedi cael y fraint i fod yn frenhines Ceredigion a dyna pryd enillodd Llanddewi Brefi rali'r sir - blwyddyn arbennig iawn."

Mae Caryl Haf bellach yn un o arweinyddion CFFI Llanddewi Brefi
Roedd Caryl yn gadeirydd yn ystod diwedd cyfnod Covid, "cyfnod hynod o anodd" meddai wrth i'r mudiad fethu cynnal y digwyddiadau arferol, a chyfnod a welodd nifer yr aelodau yn gostwng.
Fe ddangosodd adroddiad diweddar bod y niferoedd bellach wedi codi i'r hyn oedden nhw cyn cyfnod Covid.
"Roedd hi'n amlwg yn gyfnod heriol dod â'r mudiad allan o Covid ond roedd cael bod yn gadeirydd yn fraint arbennig", ychwanegodd.
"Rwy'n parhau i fod yn un o arweinyddion clwb CFFI Llanddewi er mwyn rhoi yn ôl be' ges i - ac ymhen rhai blynyddoedd bydd y mab gobeithio yn mynd i'r un clwb a chael y profiadau bendigedig a ges i."

Cyn ei chyfnod yn gadeirydd CFFI Cymru bu Caryl yn frenhines CFFI Ceredigion
Roedd tad Caryl, Gwynne Davies, yn gadeirydd yn 1985-86.
"Rwy'n falch iawn bod Caryl wedi cael ei phenodi yn gadeirydd hefyd - ond nid ni yw'r unig berthnasau. Cyn fi roedd Edna Davies o Sir Benfro yn gadeirydd ac yn go ddiweddar fe wnaeth ei merch Katie ddilyn ei throed hithau.
"Ar ôl bod yn gadeirydd Cymru es i'n gadeirydd Cymru a Lloegr - ond roedd yna dipyn o wahaniaeth. Roedd y Cymry yn gwybod yn iawn pwy o'ch chi - roedd yna ryw agosatrwydd wastad."
Yn ei waith bob dydd mae Gwynne Davies yn cyhoeddi mewn sioeau ar yr uchelseinydd ar draws Cymru.
"Heb fy mhrofiad gyda'r ffermwyr ifainc fydden i ddim yn gallu gweud yr un gair yn gyhoeddus, na stiwardio na beirniadu yn y Sioe Fawr - mae'r holl brofiadau wedi bod mor werthfawr."
Gŵr a gwraig yn gadeiryddion

Mae Gwenan Prysor a Clwyd Spencer ymhlith cadeiryddion CFFI Cymru
Clwyd Spencer a Gwenan Prysor yw'r unig ŵr a gwraig sydd wedi bod yn gadeiryddion CFFI Cymru.
Roedd Clwyd, sydd o Dreffynnon yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Henllan ger Dinbych, yn gadeirydd cenedlaethol yn 1994-95.
"I glwb bach Chwitffordd ro'n i'n mynd, fanno fu Mam, Ceinwen Spencer yn mynd, a bues i'n ffodus bod arweinydd yno yn ein gwthio ni hogia i fod ar bwyllgorau - rhai lleol i ddechrau, yna rhai sir a Chymru.
"Roedd cael bod yn gadeirydd yn brofiad arbennig iawn - cael trafaelio ar draws Cymru i lefydd na f'aswn i wedi mynd iddyn nhw.
"Dwi rŵan yn helpu gyda'r clwb lleol yma - Clwb Henllan - ac wrth fy modd."
Mae ei feibion ef a Gwenan yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Yn ddiweddar fe awgrymodd Prif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, efallai y byddai modd sefydlu clwb yng Nghaerdydd i'r rhai sydd wedi bod â chysylltiad â chlybiau gael cwrdd â'i gilydd.
Dywedodd Clwyd: "Dwi'n falch bod y meibion yn hapus yng Nghaerdydd.
"Dwi'n gobeithio ddon nhw nôl rhywdro yn eu hamser eu hunain - a felly byddai cael clwb yng Nghaerdydd ddim yn ddrwg o beth."

Clwyd a Gwenan ar ddiwrnod eu priodas
Fe gyfarfu Gwenan a Clwyd drwy weithgareddau y clybiau Ffermwyr Ifanc.
Bedair blynedd ar ôl Clwyd tro Gwenan, a arferai berthyn i Glwb Dyffryn Ogwen, oedd hi i fod yn gadeirydd CFFI Cymru.
"Roedd o'n andros o fraint ond yn gyfrifoldeb hefyd i wneud cyfiawnder â'r swydd," meddai.
"Yn digwydd bod roedd gen i fabi pan o'n i'n gadeirydd ac roedd o'n reit anodd ar adegau bod allan sawl noson yr wythnos.
"Yn sicr doeddwn i ddim yn g'neud y gwaith er mwyn cael clod i fi fy hun ond er mwyn y mudiad.
"Mae'n fudiad gwbl unigryw - yn hybu dinasyddiaeth ymhlith yr ifanc ac yn eu dysgu i wneud pethau drostynt eu hunain.
"Mae'r mudiad angen pob cymorth ariannol er mwyn cario 'mlaen â'r gwaith gwych sy'n digwydd."
"Mae dathlu'r 90 yn mynd i fod yn flwyddyn llawn cyffro," ychwanegodd.
Fe ddangosodd adroddiad diweddar sy'n asesu'r hyn mae'r clybiau wedi ei gyflawni, dolen allanol bod 74% o aelodau y 138 o glybiau sydd yng Nghymru yn siarad Cymraeg.
Wrth nodi y weledigaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf mae'r adroddiad yn nodi y bydd cryn bwyslais ar Gymreictod a chefnogi cymunedau gwledig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2025
