Gêm 'bwysig' i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch ar ffermydd

Bydd y gêm ar gael i bob Clwb Ffermwyr Ifanc sirol ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gêm newydd i geisio codi ymwybyddiaeth pobl ifanc am ddiogelwch ar ffermydd wedi cael ei datblygu ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Nod yr "ystafell ddianc mewn bocs" ydy rhoi hyfforddiant diogelwch fferm i blant a phobl ifanc mewn ffordd "ddiddorol ac effeithiol".
Mae'r gêm bwrdd wedi ei datblygu gan gwmni Jengyd ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mewn cydweithrediad gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Yn ôl ystadegau'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, cafodd 27 o bobl eu lladd ar ffermydd ym Mhrydain yn 2023/24.
Amaethyddiaeth sydd â'r record waethaf o unrhyw ddiwydiant allweddol, gyda chyfradd anafiadau angheuol tua 21 gwaith yn uwch na'r cyfartaledd.
Dyn sy'n 'caru ffarmio' yn benderfynol o barhau ar ôl colli coes
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
'Damwain cwad wedi plygu fi fel taco, a doedd dim yswiriant digonol'
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2025
Y to ifanc yn 'fwy parod' i gymryd hyfforddiant diogelwch ffermydd
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2025
Ym mis Medi 2025 dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Contractwyr Amaethyddol (NAAC), Jill Hewitt, fod "blinder, diffyg gweithwyr a phwysau ariannol yn cynyddu'r risg i ffermwyr".
Mae damweiniau yn ymwneud â cherbydau a chwympiadau yn gyffredin ym myd amaeth.
Yr achosion mwyaf cyffredin o anafiadau angheuol yw cerbydau sydd yn symud, gwartheg a syrthio, yn ôl Cyswllt Ffermio.
'Negeseuon gyda nhw am oes'
Mae'r "ystafell ddianc mewn bocs" wedi ei datblygu gan gwmni Jengyd o Geredigion.
Mae Elan Davies a'i gŵr Iwan wedi bod yn gyfrifol am ei datblygiad.
Dywedodd Elan mai'r nod oedd rhoi negeseuon am ddiogelwch ar y fferm "mewn ffordd hwyliog ac ysgafn".
"Yr oedran yma yw dyfodol ein ffermydd, felly os gallwn ni gael y negeseuon yna ar draws iddyn nhw, gobeithio bydd y prif negeseuon gyda nhw am eu hoes."

Mae Elan ac Iwan Davies wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu'r gêm
Yn ôl Iwan, mae'r cynllun yn "agos iawn" at galonnau'r ddau gan eu bod nhw'n dod o gefndir amaethyddol.
"Mae'r gêm yn llawn posau a heriau gwahanol - rhai yn ymwneud gyda rhifau a rhai yn ymwneud â llythrennau - ac maen nhw i gyd yn seiliedig ar drosglwyddo'r neges o ddiogelwch fferm i bobl ifanc.
"Bydd criwiau neu grwpiau o bobl ifanc o bump neu chwech yn cydweithio a gobeithio datrys pob pos unigol a llwyddo i ddianc, a helpu Bob i achub y fferm yw'r brif thema.
"Mae chwech ohonom ni yn gweithio i gwmni Jengyd a ni gyd yn dod o gefndir amaethyddol, felly roedd yn gyfle cyffrous i gydweithio ar brosiect sydd yn agos iawn at ein calonnau ni, a gobeithio bod nhw yn mynd i gael sbort a dysgu rhywbeth am ddiogelwch fferm."

Mae aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Mydroilyn wedi cael y cyfle i chwarae'r gêm yn barod
Bu aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Mydroilyn yn arbrofi gyda'r gêm yn ddiweddar.
Mae Ela, 16, yn dod o gefndir amaethyddol ac mae hi'n dweud bod chwarae'r gêm newydd wedi bod o fudd iddi.
"Dwi'n credu bod fi wedi sylweddoli beth yw gwir oblygiadau ddim gwisgo helmed ar y fferm," meddai.
"Dwi'n gwybod o experience bod lot o bobl ar y fferm yn euog o ddim gwisgo helmed ar y cwad.
"Os ti mewn hast, ti'n gorfod mynd mas i checkio defaid, ond ma' fe yn bwysig gwisgo fe.
"Trwy wneud e trwy gyfrwng gêm, mae'n ffordd hwylus o ddysgu gwir oblygiadau a pheryglon gweithio ar fferm."

Dywedodd Ela fod chwarae'r gêm wedi gwneud iddi werthfawrogi "gwir oblygiadau" materion diogelwch
Mae hi'n dweud bod yna beryglon mawr gyda rhai o'r cerbydau ar y fferm.
"Os chi'n carto bêls amser wyna, mae'r crafangau sydd yn mynd ar y tractor yn siarp iawn.
"Os chi'n cerdded mewn i rheina, fedrwch chi gael gwir ddolur."

"Mae pobl ifanc yn meddwl bod nhw yn mynd i fyw am byth," meddai Rhodri Jenkins
Mae aelod arall, Rhodri Jenkins, 19, yn cyfaddef bod rhai ffermwyr ifanc wedi bod yn "ddi-hid" am ddiogelwch yn y gorffennol.
"Mae'r ystadegau yn frawychus ac mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth rhyw ffordd.
"Bydden ni yn dweud bod agwedd ddi-hid gyda phobl ifanc - mae pobl ifanc yn meddwl bod nhw yn mynd i fyw am byth.
"Mae nosweithiau fel hyn yn dangos beth allai ddigwydd os ydyn nhw yn ddi-hid."

Dywedodd Sian Tandy fod y gêm yn ffordd o "blethu negeseuon" i feddyliau pobl ifanc
Yn ôl Sian Tandy, Pennaeth Cyfathrebu Cyswllt Ffermio, y nod yw newid ymddygiad pobl ifanc ynglŷn â diogelwch.
"Roedden ni am fwrw cynulleidfa targed, sef arddegwyr - pobl ifanc sydd yn gweithio neu'n byw yng nghefn gwlad neu'n gweithio mewn amaethyddiaeth, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd diogelwch ar y fferm.
"Mae'n ymgyrch hollbwysig a ni mo'yn plethu'r negeseuon yma mewn i'w meddyliau yn ifanc fel bod nhw yn creu ymarfer da.
"Mae eisiau plannu'r negeseuon yma yn gynnar er mwyn newid ymddygiad.
"Cyn neidio ar y cwad, mae angen gwisgo helmed, er enghraifft."

Gobaith Angharad Evans yw y bydd y gêm yn atal damweiniau yn y dyfodol
Mae Angharad Evans, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, yn dweud bod yr ystafell ddianc mewn bocs yn "bwysig iawn" i ddysgu arfer i'r aelod ifanc.
"Mae hon yn esiampl berffaith o sut i gyrraedd yr aelodau mewn ffordd hwyliog," meddai.
"Wrth addysgu'r aelodau ni'n gobeithio bydd llai o ddamweiniau yn digwydd ar y ffermydd a gobeithio bydd yr ystadegau yn lleihau dros gyfnod o amser."
Bydd y gêm - Dihangfa Diogel - ar gael i bob Clwb Ffermwyr Ifanc sirol ledled Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.