Pwy yw'r enillydd BAFTA, Lauren Evans?

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfarwyddwr castio o'r Hendy, Lauren Evans, wedi ennill Bafta am ei gwaith ar y ffilm I Swear.
Yn y seremoni yn y Royal Festival Hall yn Llundain ar 22 Chwefror, fe enillodd I Swear dair BAFTA, gyda'r actor Robert Aramayo yn cipio'r wobr prif actor mewn categori a oedd yn cynnwys Leonardo DiCaprio a Timothée Chalamet.

Lauren Evans yn cael ei chofleidio gan Robert Aramayo wedi'r cyhoeddiad ei bod yn fuddugol
Cafodd Lauren Evans bedwar enwebiad cyn ei llwyddiant neithiwr - tair gwaith am ei gwaith ar Sex Education, ac unwaith am Lost Boys & Fairies.
Mae Lauren hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr castio ar raglenni teledu fel Gavin & Stacey a Renegade Nell, a'r ffilmiau William Tell a Paddington 2.
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Lauren Evans:
"Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, a fy magu yn yr Hendy. Rwy'n byw yn Llundain ers bron i 20 mlynedd bellach."

Lauren yn gafael yn ei gwobr
Mae Lauren yn trafod sut y dechreuodd ei gyrfa yng Nghymru.
"Dechreuais i weithio mewn asiantaeth perfformwyr ifanc o Gymru o'r enw Ysgol Llwyfan Mark Jermin. Ro'n i wedi bod yn rhan o'r ysgol lwyfan ers pan oeddwn i'n wyth oed ac roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau gweithio yn y celfyddydau - ond nid fel perfformiwr. Tra roeddwn i yn y brifysgol wnes i brofiad gwaith yn yr asiantaeth, ac yna ges i gynnig rôl amser llawn i mi ar ôl i mi raddio.
"Nes i sylweddoli bod gen i lawer mwy o ddiddordeb mewn castio ei hun - a bod fy sgiliau'n fwy addas iddo. Felly, ychydig yn naïf ond yn benderfynol iawn, anfonais e-bost at bron bob cyfarwyddwr castio a restrir yn y llawlyfr cysylltiadau.
"Dim ond un ateb ges i - gan Kate Dowd - ac fe gynigiodd interniaeth i mi. Fy swydd gyntaf un oedd gweithio ar y ffilm World War Z gyda Brad Pitt, a oedd yn gyflwyniad eithaf da i'r diwydiant!
"Yn 2017, tra roeddwn i'n feichiog gyda fy merch ac ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth, cefais gynnig cyfarfod ar gyfer Sex Education. Cefais y swydd - a dyna ddechrau fy nghwmni fy hun, Lauren Evans Casting Ltd."

Dywed Lauren y bydd rhaid i'w thlws BAFTA gystadlu â lego'r plant am le ar y shilff ben tân
Beth yw ymateb Lauren i'w llwyddiant yn y BATFAs?
"Rwy'n dal mewn sioc. Doeddwn i wir ddim yn meddwl bod unrhyw siawns y byddwn i'n ennill. Roeddwn i wedi setlo'n gyfforddus iawn yn fy sedd - un esgid i ffwrdd, gwm cnoi i gadw'n ffres - pan alwon nhw fy enw.
"Roedd yn anhygoel sefyll o flaen cynulleidfa fel 'na: actorion, pobl greadigol, a hyd yn oed y Teulu Brenhinol.
"Fel cyfarwyddwyr castio, rydym ni mor gyfarwydd â bod tu ôl i'r camera, felly roedd camu i'r holl sylw'n teimlo'n swreal.
"Gyda Rob yn ennill dwy wobr hefyd, gwnaeth y noson hyd yn oed yn fwy arbennig. Rydym ni i gyd yn teimlo'n emosiynol iawn ac yn ddiolchgar iawn am y cariad a'r gefnogaeth sydd wedi'i ddangos."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd11 Chwefror
