Wrecsam i herio Ipswich ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr

Mae Wrecsam yn y nawfed safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd tra bod Ipswich yn drydydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Wrecsam yn croesawu Ipswich Town i'r Cae Ras yn rownd nesaf Cwpan FA Lloegr.
Fe sicrhaodd Wrecsam eu lle yn y bedwaredd rownd drwy drechu Nottingham Forest ar giciau o'r smotyn wedi gêm gyfartal hynod gyffrous nos Wener.
Fe fydd y gêm yn erbyn Ipswich - un o wrthwynebwyr y Dreigiau yn y Bencampwriaeth - yn cael ei chwarae ar benwythnos 14 Chwefror.
Wrecsam yw'r unig dîm o Gymru sydd dal yn y gystadleuaeth, ar ôl i Abertawe golli i West Brom yn y rownd ddiwethaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.