Y Cymro Eric Ramsay wedi'i ddiswyddo gan West Brom ar ôl naw gêm

Eric RamsayFfynhonnell y llun, NurPhoto
  • Cyhoeddwyd

Mae West Bromwich Albion wedi diswyddo'r Cymro Eric Ramsay fel prif hyfforddwr y clwb ar ôl naw gêm wrth y llyw.

Cymerodd Eric Ramsay, sy'n 34 oed, yr awenau ddechrau mis Ionawr gyda'r Baggies yn y 18fed safle.

Ond mae wedi colli ei swydd gyda West Brom yn yr 21ain safle yn y Bencampwriaeth, a heb ennill yr un gêm.

Yn wreiddiol o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn, bu Ramsay yn hyfforddwr gyda Manchester United ac roedd hefyd yn hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm dynion Cymru, cyn mynd i reoli Minnesota United yn yr Unol Daleithiau.

Eric RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod ei gyfnod byr gyda West Brom, collodd y clwb o 5-0 i Norwich, sef y golled gartref waethaf erioed i'r clwb yn y Bencampwriaeth.

Dydy'r clwb bellach heb ennill mewn 10 gêm, ac mae'r bwrdd yn chwilio am y pedwerydd prif hyfforddwr mewn llai na 14 mis.

Dim ond 44 diwrnod roedd Ramsay yn y swydd, sef y cyfnod byrraf yn hanes unrhyw reolwr parhaol West Brom.

Cafodd cynorthwyydd Ramsay, Dennis Lawrence hefyd ei ddiswyddo, tra bydd James Morrison yn rheoli'r tîm dros dro tra bod y clwb yn chwilio am hyfforddwr newydd.

Pynciau cysylltiedig