West Brom yn penodi'r Cymro Eric Ramsay yn brif hyfforddwr

Mae Eric Ramsey wedi bod yn hyfforddi Minnesota United yn yr Unol Daleithiau
- Cyhoeddwyd
Mae West Bromwich Albion wedi penodi'r Cymro Eric Ramsay yn brif hyfforddwr newydd.
Mae Ramsay, 34, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gyda'r Baggies - wedi iddyn nhw ddiswyddo Ryan Mason ddydd Mawrth.
Wedi gyrfa fer fel chwaraewr fe ddechreuodd Ramsey ei yrfa hyfforddi gydag Abertawe cyn treulio cyfnodau gydag Amwythig, Manchester United a Chelsea.
Yn wreiddiol o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn cafodd ei benodi yn is-reolwr ar Gymru yn ystod cyfnod Rob Page wrth y llyw, ond fe adawodd y rôl honno ym mis Medi 2023.
Yn fwyaf diweddar mae Ramsay wedi bod yn rheoli Minnesota United yn yr Unol Daleithiau - ei swydd gyntaf fel rheolwr.
Bydd ei gêm gyntaf fel rheolwr West Brom - sy'n 18fed yn y Bencampwriaeth - yn erbyn Middlesbrough nos Wener.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023

- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
