'Amhosib' rhedeg fferyllfa yn y 'sefyllfa waethaf mewn 26 mlynedd'

Dywedodd Gwawr Jones, sy'n rhedeg fferyllfa yn Y Rhws, ei bod yn wynebu'r "hinsawdd ariannol waethaf" y mae wedi'i gweld mewn 26 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae rhedeg fferyllfa yn "amhosib" oherwydd costau cynyddol, yn ôl un fferyllydd o dde Cymru.
Dywedodd Gwawr Jones, sydd o'r Barri ac yn rhedeg fferyllfa yn Y Rhws, ei bod yn wynebu'r "hinsawdd ariannol waethaf" y mae wedi'i weld mewn 26 mlynedd.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 60% o berchnogion fferyllfeydd yng Nghymru wedi ail-forgeisio eu tai neu wedi defnyddio cynilion personol y flwyddyn ddiwethaf i aros ar agor, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol y Fferyllfeydd (NPA).
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwneud "buddsoddiad sylweddol yn y sector yn ystod y blynyddoedd diwethaf", gan gynnwys mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau craidd i alluogi diwygiadau.
Myfyriwr yn colli'r gallu i siarad Cymraeg ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Camgymeriadau gyda sepsis laddodd ein merch, medd rhieni sy'n galw am newid
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
Galw am lwybr triniaeth benodol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Yng Nghymru, mae fferyllfeydd cymunedol yn cael eu hariannu'n bennaf drwy'r Fframwaith Cytundebol Fferyllfeydd Cymunedol (CPCF).
Y cynnydd diwethaf i'r cytundeb oedd codiad o 4% a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025, ddaeth â chyfanswm ffioedd a lwfansau'r CPCF i £182m y flwyddyn.
Mae hynny'n cynnwys dosbarthu, ffioedd proffesiynol, gwasanaethau clinigol a chostau gweithredol fferyllfeydd.
I'r rhan fwyaf o fferyllfeydd yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn dod o'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae perchnogion bellach yn beio cyllid y GIG, sydd, yn eu barn nhw, heb godi mewn termau real ers degawd.

"Ni'n colli £3.06 am bob bocs rydyn ni'n ei roi o'r cyffur yma sy'n gallu achub bywyd," meddai Mrs Jones
Dywedodd Gwawr Jones fod ei chostau "wedi mynd drwy'r to" oherwydd chwyddiant, cynnydd mewn prisiau cyffuriau a diffyg cynnydd i'r incwm gan y GIG.
Dywedodd Mrs Jones ei bod hi'n talu £3.75 ym mis Chwefror am 75mg o aspirin, ond bod y cytundeb yn golygu ei bod ond yn cael ei werthu am £3.05.
"Mae hyn yn golygu ein bod ni'n colli 70c am bob bocs rydyn ni'n ei roi o'r cyffur yma sy'n gallu achub bywyd," meddai.
Dywedodd y gall fferyllfeydd weithiau gael consesiwn cyffuriau ar ddiwedd y mis sy'n cynyddu'r ad-daliad.
"Ond fyddwn ni ddim yn gwybod [y swm] nes i ni roi cannoedd o focsys i'n cleifion," ychwanegodd.
'Baich enfawr'
Dywedodd nad yw'r cynnydd mewn cyllid yn "cyffwrdd yr ochrau" o ran ei chostau.
"Mae gennych chi hefyd cynnydd gyda'r cyflog byw, yswiriant gwladol, a gyda chostau ynni a chostau tanwydd i gadw gyrwyr ar y ffordd."
Dywedodd Mrs Jones ei bod yn cydnabod bod diwydiannau eraill yn wynebu pwysau tebyg, ond bod dibyniaeth y diwydiant ar incwm y GIG yn golygu ei bod hi'n anodd i berchnogion ddod o hyd i ateb.
"Mae diffyg o tua £40m oherwydd dydy taliadau contract ddim wedi cadw i fyny â chwyddiant fferyllfeydd."
"Mae hynny'n faich enfawr wrth i ni geisio rhedeg fferyllfeydd."

Mae Tunde Olawoye wedi mynd i ddyled o £145,000 wrth geisio cadw ei fusnes ar agor
Mae fferyllydd arall o Geinewydd yng Ngheredigion yn dweud ei fod wedi derbyn llythyrau bygythiol gan gwmnïau benthyciadau ar ôl mynd i ddyled o £145,000 wrth geisio cadw ei fusnes ar agor.
Mae sefyllfa ariannol Tunde Olawoye, 54, wedi gwaethygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n "teimlo'n ofnus bob mis" wrth feddwl am sut y bydd yn fforddio talu ei staff.
Dywedodd Mr Olawoye fod y busnes yn gwneud yn "iawn" i ddechrau, ond sylweddolodd yn fuan fod ei gostau cyffredinol yn fwy na'i dâl.
Dywedodd fod y cynnydd diwethaf o 4% i'r CPFC yn "swnio fel cymaint", ond "nad yw'n gwneud llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd".
"Dyw e ddim yn gynaliadwy o gwbl," meddai.
"Mae angen iddyn nhw fuddsoddi mwy yn y proffesiwn oherwydd ni yw rheng flaen y maes iechyd yn y wlad yma."
'Dwi ddim am werthu fy musnes ar golled'
Dywedodd y bydd pwynt yn dod lle bydd ei gartref mewn perygl os bydd y fferyllfa'n cau, gan fod yr eiddo'n rhan o'r warant wrth brynu'r busnes.
Mae dyled Mr Olawoye wedi cynyddu i £145,000 ers hynny ac mae wedi gorfod sefydlu trefniant ad-dalu i fodloni ei gredydwyr.
Roedd yn ystyried gwerthu'r busnes, ond dywedodd na fyddai'r arian o'r gwerthiant "wedi bod yn ddigon i dalu fy menthyciadau banc".
Ychwanegodd: "Dyma'r heriau rydych chi'n delio â nhw ddydd i ddydd."
"Nawr rydw i wedi penderfynu dwi ddim am werthu fy musnes ar golled, rydw i'n mynd i roi cynnig ar bopeth i'w wneud yn broffidiol eto."
'Anghynaladwy ac yn annheg'
Mae'r NPA newydd ryddhau eu hystadegau diweddaraf ar ôl cynnal arolwg o'u haelodau yng Nghymru.
Mae'n awgrymu nad oedd pedwar o bob 10 fferyllfa yng Nghymru yn broffidiol yn 2025.
Dywedodd David Thomas, aelod o Fwrdd Cymru'r NPA, y dylai'r canfyddiadau "seinio clychau larwm mawr i Lywodraeth Cymru".
"Mae'n anghynaladwy ac yn annheg disgwyl i berchnogion fferyllfeydd ail-forgeisio eu tŷ a defnyddio eu cronfa bensiwn i ariannu cost presgripsiynau a chadw eu drysau ar agor i'w cleifion.
"Er mwyn atal hyn rhag digwydd, dylai'r llywodraeth ymyrryd a chynnig taliad sefydlogi i fferyllfeydd, yn debyg i'r hyn a gynigiwyd yn ddiweddar i gydweithwyr sy'n feddygon teulu."
£40m o gynnydd ers 2017
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod fferyllfeydd cymunedol yn rhan hanfodol o ofal sylfaenol".
"Rydym wedi cynyddu cyllid ar gyfer fferyllfeydd cymunedol o fwy na £40m ers i'r diwygiadau ddechrau yn 2017.
"Mae hyn yn cynnwys darparu cynnydd uwchlaw chwyddiant mewn cyllid rheolaidd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, taliad sefydlogrwydd o £6m i fodloni pwysau cost penodol y mae'r sector yn eu hwynebu, a thros £1m mewn cyllid grant i wneud gwelliannau i safleoedd mwy na 100 o fferyllfeydd ym mhob rhan o Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.