Camgymeriadau gyda sepsis laddodd ein merch, medd rhieni sy'n galw am newid

BethanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Bethan yn fuan ar ôl darganfod fod ganddi sepsis

GanAnest Eirug
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mi fyddai Bethan James wedi bod yn 27 oed erbyn hyn. Bu farw pan roedd hi'n 21 o gyfuniad o sepsis, niwmonia a chlefyd Crohn's.

Ni chafodd sepsis Bethan ei ganfod yn ddigon cyflym ac felly roedd yna oedi mewn gofal a allai fod wedi achub ei bywyd.

Nawr, mae ei rhieni'n galw am well hyfforddiant wrth wneud diagnosis o sepsis.

Yn ôl ymchwiliad gan y BBC, dydy hyfforddiant ymwybyddiaeth o sepsis ddim yn orfodol yn y rhan fwyaf o ysbytai Cymru, gyda rhieni Bethan yn poeni y gallai'r hyn ddigwyddodd i'w merch nhw ddigwydd i eraill.

Mae'r ysbyty lle bu farw Bethan a Llywodraeth Cymru'n dweud fod ymwybyddiaeth o sepsis yn "ffocws" ac yn "flaenoriaeth", gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud fod "newidiadau ystyrlon" wedi eu gwneud.

Rhieni Bethan, Steve a Jane yn sefyll yn y gegin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve a Jane, rhieni Bethan, yn dweud fod "bywyd yn abnormal" ers i'w merch farw yn 2020

Mae Jane a Steve James, sy'n gyn-chwaraewr criced rhyngwladol, yn parhau mewn sioc dros "farwolaeth diangen" eu plentyn hynaf yn 2020.

Yn ôl ei thad: "Bethan oedd y person mwya' caredig, gofalgar a chariadus. Roedd ganddi gymaint yn fwy i'w roi.

"Mae'n brifo eich calon wrth feddwl, ble byddai Bethan heddiw a beth fydde' hi'n gwneud nawr?

"Rydym ni'n dal i barhau a bywyd o ddydd i ddydd, ond o dan hyn oll, mae torcalon llwyr a chymaint o adegau tywyll, tywyll. Mae'n fywyd hollol abnormal."

Mae sepsis yn datblygu pan fo system imiwnedd y corff yn gorymateb i haint, gan ddechrau ymosod ar gelloedd a meinweoedd y corff.

Yn ôl The UK Sepsis Trust mae tua 48,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o salwch sy'n ymwneud â sepsis, gyda "miloedd" o'r rheiny yn farwolaethau yr oedd modd eu hatal.

Steve a BethanFfynhonnell y llun, Steve James
Disgrifiad o’r llun,

Bethan yn blentyn yn dathlu gyda'i thad oedd arfer bod yn gapten ar dîm criced Morgannwg

Bu farw Bethan chwe blynedd yn ôl i'r wythnos hon.

Fe frwydrodd ei rheini am gwest ble daeth crwner i'r casgliad petai yna ddim oedi yn ei thriniaeth, ni fyddai Bethan wedi marw.

Mae ymchwiliad gan y BBC wedi darganfod nad yw hyfforddiant ymwybyddiaeth o sepsis yn orfodol yn ysbyty mwyaf Cymru – Ysbyty Athrofaol Cymru, ble fu farw Bethan.

"Chi'n mynd mewn i'r ysbyty ac mae 'na bosteri sepsis yn y liffts, ar y waliau, ond os dyw eu staff rheng flaen methu adnabod symptomau sepsis. Mae'n anghredadwy," meddai Jane, mam Bethan.

'Diystyriol o'i symptomau'

Roedd Bethan yn sâl am 10 diwrnod cyn ei marwolaeth ac wedi ymweld â'r ysbyty bum gwaith.

"Roedden nhw'n eitha' diystyriol o'i symptomau," meddai Jane, sy'n ffisiotherapydd.

"Roedd cyfradd curiad ei chalon yn uchel, ei phwysau gwaed yn isel – roedd hi mor anodd i gael nhw i wrando."

Wrth i gyflwr Bethan ddirywio fe ddychwelodd i'r ysbyty ddyddiau wedyn – gan weld yr un doctor.

Llun o deulu Steve a Jane a'r 2 blentyn yn gwenuFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Steve a Jane ddim eisiau i neb arall fynd drwy'r un profiad â nhw

Mae Steve, sydd bellach yn ysgrifennu erthyglau chwaraeon i bapur newydd The Times, yn cofio un meddyg yn dweud y byddai Bethan yn gwella'n fuan.

Ar sail cyngor y doctor penderfynodd fynd i Iwerddon gyda'i waith.

"Hyd yn oed ar y dydd Sadwrn pan 'naeth hi farw, roedd [Bethan] yn cadw dweud wrth Jane 'mae'r doctor yna wedi dweud fy mod i'n mynd i fod yn OK'.

"Fe es i i Iwerddon. Mae hwnna'n benderfyniad mae'n rhaid i mi fyw gyda am weddill fy oes – dwi'n difaru gymaint, ond fe gymrais ei air."

'Red flag ar gyfer sepsis'

Diwrnod ar ôl i Steve adael am Ddulyn, fe waethygodd cyflwr Bethan.

Fe ffoniodd Jane 999, ac fe gyrhaeddodd parafeddyg i'w tŷ yng Nghaerdydd.

"Roedd ganddi dymheredd uchel, roedd hi'n edrych yn llwyd, roedd hi'n oer, ac roedd ganddi boen yn ei brest," meddai Jane.

"Fe wnaethon ni ddarganfod yn ddiweddarach nad oedden nhw'n medru cofnodi ei phwysau gwaed oherwydd ei fod e mor isel.

"Roedd yr holl symptomau yna yn red flag ar gyfer sepsis."

Bethan yn blentyn (chwith) ac yna fel oedolynFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane yn dweud ei bod hi'n teimlo y byddai Bethan am iddyn nhw barhau i frwydro am newid

Fe gafodd Bethan ei hasesu a chafodd sgôr gan ddefnyddio system rhybudd cynnar cenedlaethol (National Early Warning Score).

Mae'r system yn edrych ar bethau fel pwysau gwaed, curiad y galon a chyfradd anadlu.

Mae unrhywbeth dros saith yn nodi risg difrifol o sepsis, lle dylai gofal gael ei uwchgyfeirio ar frys i adolygiad meddygol brys mewn lleoliad gofal acíwt.

Sgôr Bethan oedd wyth – ond doedd y parafeddyg ddim yn cydnabod efallai fod ganddi sepsis.

Fe alwodd y parafeddyg am ambiwlans ond doedd Bethan ddim wedi ei nodi fel blaenoriaeth a doedd neb wedi rhagrybuddio'r ysbyty – felly pan gyrhaeddon nhw am bron i 20:00, doedd dim gwely adfywiad (resuscitation) yn aros amdani.

'Gofynnon nhw i mi adael'

Bron i awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty, fe gafodd Bethan ei symud i'r uned adfywio.

Yno fe wnaeth profion gadarnhau bod ganddi sepsis – ac fe gafodd Bethan wrthfiotigau.

Ond roedd hi'n rhy hwyr.

"Fe ofynnon nhw i mi adael. Fe gafodd hi ataliad y galon tua pum munud wedyn a bu farw am 22:00," meddai Jane.

Fe gafodd Steve wybod bod ei ferch wedi marw tra'n gyrru adref i dde Cymru o faes awyr Heathrow.

Llun o Bethan yn gwenuFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bethan oedd y person "mwyaf caredig, gofalgar a chariadus" yn ôl ei thad Steve

Fe ymddiheurodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am y "gwallau a nodwyd yn achos Bethan", gan ddweud bod hyfforddiant sepsis nawr yn orfodol.

Ychwanegon nhw fod "newidiadau ystyrlon" wedi eu gweithredu.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am Ysbyty Athrofaol Cymru, fod "ymwybyddiaeth a diagnosis cynnar o sepsis yn flaenoriaeth" a'u bod yn "gyson yn adolygu'r hyfforddiant adnabod symptomau sepsis er mwyn gwella'r gwasanaeth".

Fe wnaeth Cais Rhyddid Gwybodaeth y BBC i bob un o fyrddau iechyd Cymru ddarganfod, yn yr ardaloedd ble mae hyfforddiant sepsis yn orfodol, ei fod yn rhan o fodiwlau eraill, yn hytrach na bod yn hyfforddiant unigryw ar sepsis.

Fe wnaeth y BBC hefyd ddarganfod bod arolygu'r hyfforddiant yn anghyson - a dyw rhai byrddau iechyd ddim yn cofnodi cyfraddau cwblhau o gwbl.

Mae The UK Sepsis Trust yn awyddus i ysbytai sicrhau bod yr holl staff clinigol yn cael hyfforddiant gorfodol sy'n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o sepsis.

Disgrifiad,

Sepsis: "Pan welodd fy ngŵr i, oedd o'n gwybod 'mod i'n marw"

Un sydd wedi elwa o hyfforddiant o'r fath yw Prydwen Elfed Owens o Drefnant yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd Prydwen sepsis dros ddegawd yn ôl a dywedodd pan welodd ei gŵr hi "oedd o'n gwybod 'mod i'n marw".

"Roedd fy ngŵr yn nyrs," meddai. "Fe gysylltodd o â'r ambiwlans yn syth.

"A dwi'n ffodus fod y staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam newydd gael hyfforddiant ar sepsis.

"10 munud arall - dyna ddywedson nhw yn yr ysbyty - 10 munud arall a mi fyddai hi wedi bod yn rhy hwyr.

"Dwi'n meddwl bod hi'n gwbl angenrheidiol bod hyfforddiant fel hyn yn digwydd."

Mae ymchwil y BBC wedi darganfod fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain wedi mabwysiadu cynllun sy'n caniatáu i staff, rhieni, teuluoedd a gofalwyr ofyn am farn arall pan fo cyflwr cleifion mewnol yn gwaethygu'n sydyn.

Mae'r cynllun Galwad am Bryder wedi ei gyflwyno yn rhannol mewn tri bwrdd iechyd arall yng Nghymru, gyda'r gweddill yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Dyw unedau cleifion allanol fel unedau brys ddim wedi eu cynnwys.

Yn Lloegr, mae modd i deuluoedd gael ail farn am gleifion ar frys – gan gynnwys cleifion mewn unedau achosion brys a damweiniau – o ganlyniad i Reol Martha.

Fe gafodd y gwasanaeth yma ei enwi ar ôl Martha Mills – merch 13 oed fu farw yn 2021 ar ôl i gyfleoedd i drin ei sepsis gael eu colli.

Mae rhieni Bethan a The UK Sepsis Trust wedi galw am gyflwyno Rheol Martha neu rywbeth tebyg yng Nghymru – gan gynnwys mewn unedau brys.

Yn ôl cyngor NICE, dylai pob gwasanaeth ambiwlans allu rhoi gwrthfiotigau mewn achosion o sepsis ble mae amseroedd trosglwyddo i adrannau brys ysbytai yn fwy nag awr.

'Fe ddyle Bethan dal fod yma'

Fe ofynnodd y BBC i bob gwasanaeth ambiwlans yn y DU os ydyn nhw'n dilyn y canllawiau yma.

Dim ond yr Alban ac Ynys Wyth a ddywedodd eu bod nhw'n gwneud hynny.

Mae rhanbarth Canol De Lloegr wedi cyflwyno'r canllawiau yn rhannol.

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru maen nhw'n croesawu gwaith ymchwil pellach i fanteision cael staff ambiwlans i weinyddu gwrthfiotigau cyn cyrraedd yr ysbyty.

Mae Steve a Jane am i Lywodraeth Cymru sicrhau fod pob un o fyrddau iechyd Cymru'n cyflwyno hyfforddiant penodol i adnabod sepsis.

"Dwi ddim eisiau i unrhyw deulu arall orfod mynd trwy hyn – achos fe ddyle Bethan dal fod yma gyda ni," meddai Steve.

Fe ddywedodd y llywodraeth y "bydd sepsis yn ffocws ar gyfer cynlluniau gwella GIG Cymru yn 2026-27 er mwyn sicrhau gofal cyson, o ansawdd dda".

Ychwanegon nhw eu bod yn cymryd camau sylweddol i wella sut mae sefydliadau'r GIG yn cydnabod ac yn ymateb i sepsis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.