Galw am lwybr triniaeth benodol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

Mae Katie yn dweud ei bod wedi gorfod brwydro i gael triniaeth i'w mab sydd â Syndrom Tourette
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr dros bobl â Syndrom Tourette yn dweud ei bod hi'n hen bryd i Gymru ddylunio llwybr triniaeth.
Amcangyfrifir bod gan 1% o blant y syndrom, sy'n golygu eu bod yn gwneud synau neu symudiadau anwirfoddol sy'n cael eu galw yn 'ticiau'.
Er bod rhai arbenigwyr yn dweud ei fod mor gyffredin ag awtistiaeth, mae ymgyrchwyr yn dadlau nad yw'r cyflwr yn cael yr un lefel o sylw na chefnogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio ar fesurau i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer pobl â Syndrom Tourette.

Cafodd y ffilm I Swear, am fywyd dyn â Syndrom Tourette, ei henwebu am chwe gwobr BAFTA wythnos diwethaf
Mae Katie wedi gorfod brwydro dros ei mab wyth oed, a gafodd ddiagnosis o Syndrom Tourette bedair blynedd yn ôl, ac mae ganddi bentwr o lythyrau i brofi'r heriau y mae wedi'u hwynebu.
Dywed Katie ei bod hi'n anodd i'w mab reoli amrywiaeth o symudiadau sy'n digwydd yn ddyddiol, gan gynnwys "blincio, sniffian, clirio'r gwddf, taflu ei ben yn ôl, taflu ei ben ymlaen, ysgwyd ei ben, jercio'i goes, a symud ei draed".
Ers y diagnosis, mae Katie, sy'n byw ger Casnewydd, yn dweud ei bod wedi wynebu "wal frics" o ran cael triniaeth, gan gael ei throsglwyddo o un lle i'r llall.
"Rwy'n teimlo'n anobeithiol, ac rwy'n teimlo'n flin drosto fe, yn enwedig gan ei fod fel arfer yn gwaethygu wrth i chi fynd yn hŷn. Mae hormonau'n dod i mewn, a phethau fel 'na," esboniodd.
"Rwy'n poeni amdano fe'n mynd i'r ysgol uwchradd. Rwy'n poeni y bydd bobl yn angharedig. Mae'n ofid."

Mae Emma McNally o Tourettes Action yn dweud bod angen llwybr triniaeth benodol ar gyfer Syndrom Tourette yng Nghymru
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol, neu NICE, yn amcangyfrif bod gan 1% o blant ysgol Syndrom Tourette, a bod gan 300,000 o blant ac oedolion ledled y DU y syndrom.
Ond mae arbenigwyr yn dweud bod llai nag 20% o blant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at therapïau ymddygiadol a all helpu i reoli'r ticiau.
Mae ffilm am fywyd dyn â Syndrom Tourette, o'r enw I Swear, wedi cael ei henwebu am chwe gwobr BAFTA, gan ddod â sylw newydd i'r cyflwr.
Dywedodd Emma McNally o Tourettes Action fod y cyhoeddusrwydd wedi bod yn gadarnhaol, ond bod y llwybr triniaeth yn parhau'n anfoddhaol ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru.
"Yr hyn yr hoffem ei weld yw bod gan bob bwrdd iechyd, felly ym mhob ardal leol ledled y wlad, wasanaeth ar gyfer Syndrom Tourette oherwydd ei fod yn gyflwr cyffredin iawn, felly dylai fod gwasanaeth," meddai.
"Dylai pobl allu cael mynediad at wasanaeth lleol iddyn nhw, lle gallen nhw gael diagnosis ac yna cael triniaeth ar gyfer y cyflwr."

Yn ôl Dr Tara Murphy, gall therapïau ymddygiadol roi tua 40 neu 50% o reolaeth i bobl ifanc dros eu ticiau
Dywed Dr Tara Murphy o Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain fod yna driniaethau ar gael.
Ar hyn o bryd, yr unig uned yng Nghymru yw un yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac ar hyn o bryd dim ond cynllun peilot yw hynny.
Ychwanegodd fod y therapïau hyn yn gallu helpu: "Ma' hyn yn golygu datblygu strategaethau i ddysgu rheoli'r ticiau pan fydd y person sydd â'r ticiau eisiau gwneud hynny, ac mae hynny'n waith caled.
"Mae'n cymryd cryn dipyn o ymarfer, ond gall roi tua 40% neu 50% o reolaeth i bobl ifanc dros eu ticiau."
Yn ystod dadl yn y Senedd fis diwethaf, cafwyd galwadau trawsbleidiol am fwy o gefnogaeth i bobl â Syndrom Tourette a'u teuluoedd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy AS, nad yw lefel y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dderbyniol, gan fod "amrywio sylweddol yn y gwasanaeth a ddarperir, a gall lefel y gofal fod yn fater syml o ble mae pobl yn byw".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cod ymarfer niwroamrywiad yn cael ei ddatgelu mewn ychydig fisoedd, gyda'r gobaith y bydd llwybr triniaeth benodol ar gyfer Syndrom Tourette yn cael ei gyflwyno yn y pen draw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
