Chwe Gwlad: Hamer-Webb a Costelow i ddechrau yn erbyn yr Alban

Gabriel Hamer-WebbFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd asgellwr Caerlŷr, Gabriel Hamer-Webb yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i'r tîm a gafodd gweir gan Ffrainc er mwyn herio'r Alban yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Bydd asgellwr Caerlŷr, Gabriel Hamer-Webb yn ennill ei gap cyntaf, ac mae maswr y Scarlets, Sam Costelow hefyd yn dechrau ar ôl cael ei ffafrio dros Dan Edwards.

Mae Ben Carter yn cymryd lle Adam Beard yn yr ail reng, a Taine Plumtree wedi'i ddewis i gymryd lle Olly Cracknell yn y rheng-ôl.

Mae tri newid ar y fainc hefyd, gyda chlo Caerloyw Freddie Thomas, blaenasgellwr Caerdydd James Botham, ac olwr y Scarlets Blair Murray ymysg yr eilyddion am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni.

Sam CostelowFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gorffennaf 2025 oedd y tro diwethaf i Sam Costelow gynrychioli Cymru

Mae Cymru wedi cael cweir yn eu dwy gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni - 48-7 oddi cartref yn erbyn Lloegr, a 54-12 gartref yn erbyn Ffrainc.

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi colli 13 gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sul welodd y dorf leiaf erioed ar gyfer gêm gartref Cymru yn y Chwe Gwlad, gyda 57,744 o gefnogwyr yn bresennol.

Bydd y gic gyntaf yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality am 16:40 ddydd Sadwrn.

Steve TandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Tandy dan bwysau i gael canlyniad positif ar ôl dwy golled drom yn y gystadleuaeth hyd yma

Dywedodd Tandy ei fod yn teimlo mai dyma'r "tîm gorau i herio'r Alban, a gyda chwe diwrnod ers y gêm ddiwethaf, chi mo'yn bach o ffresni hefyd".

Mae Hamer-Webb, 25, wedi chwarae i dimau ieuenctid Lloegr yn y gorffennol, ond mae'n gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam.

Fe adawodd Rygbi Caerdydd i ymuno â Chaerlŷr y llynedd, ac mae'n cymryd lle Ellis Mee yn y tîm.

Y tro diwethaf i Costelow, 25, gynrychioli Cymru oedd y golled oddi cartref yn erbyn Japan yng Ngorffennaf 2025.

Seddi gwag yn Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd o seddi gwag yn Stadiwm Principality ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc y penwythnos diwethaf

Tîm Cymru

Rees-Zammit; Hamer-Webb, James, Hawkins, Adams; Costelow, T Williams; Carre, Lake (capt), Francis, Jenkins, Carter, Plumtree, Mann, Wainwright.

Eilyddion: Elias, Smith, Griffin, F Thomas, Botham, Hardy, J Evans, Murray.

Trefn gemau Cymru

Cymru v Yr Alban - dydd Sadwrn, 21 Chwefror, 16:40

Iwerddon v Cymru - dydd Gwener, 6 Mawrth, 20:10

Cymru v Yr Eidal - dydd Sadwrn, 14 Mawrth, 16:40

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.