Sut beth yw bod yn 'ffermwraig' yn 2026?

- Cyhoeddwyd
Mae dwy ffermwraig lwyddiannus o Gymru yn dweud fod agweddau a syniadau tuag at fenywod yn y diwydiant amaeth wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ond bod lle i wella mewn rhai gwledydd wrth i'r Cenhedloedd Unedig ddynodi 2026 yn Flwyddyn Ryngwladol y Ffermwraig.
Wrth rannu eu profiadau gwahanol ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, bu Erin McNaught, 23 oed o'r Bala a Gwenno Pugh sy'n ffermio ar Ynys Môn yn dweud fod pethau nawr yn llawer mwy positif a bod mwy o fenywod eisiau gyrfa yn y diwydiant.
Yn ôl Erin, sy wedi bod yn rhan o grŵp yr NFU wnaeth fynychu un o gyfarfodydd y G7 - sy'n cynrychioli rhai o wledydd cyfoethocaf y byd - mae merched sy'n ffermio yng Nghymru 'mewn lle lwcus' o gymharu â merched eraill yn y byd.
Dywed y Cenhedloedd Unedig fod tua hanner gweithlu amaethyddol y byd yn fenywod ac mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o hyn a hefyd y problemau a'r heriau sy'n wynebu nifer.
"Dwi'n meddwl bod o'n grêt bod merched yn cael y sylw, meddai Erin o ran pwysigrwydd dynodi diwrnod rhyngwladol i fenywod sy'n amaethu.
"Yn amlwg mewn gwledydd gwahanol mae'r sefyllfa yn wahanol i bob un ferch. A dwi'n meddwl o ran ni yn y Deyrnas Unedig ni mewn lle lwcus i gymharu â merched eraill yn fyd-eang."
Mae Erin a Gwenno yn rhannu'r gred fod agweddau yma yng Nghymru wedi newid dros y blynyddoedd.

Mae Gwenno Pugh, sy'n ffermio ar Ynys Môn, yn credu fod agweddau at ferched yn y byd amaeth wedi gwella
Meddai Gwenno. "Dwi'n meddwl bod o wedi newid yn ofnadwy i'r ochr bositif. Mae merched o fewn y diwydiant yn cael eu derbyn lot mwy erbyn hyn.
"Chi'n gwybod pobl oed fi rŵan dy nhw ddim hyd yn oed yn meddwl amdano fel merched mewn amaeth, ma' pawb ar yr un par mewn ffordd.
"Dwi'n meddwl bod mwy a mwy eisiau mynd mewn i'r diwydiant oherwydd eu bod nhw'n cael eu derbyn.
"Mae'r progress ers i mi ddechrau ffermio wedi bod yn reit fawr felly 'de.
"Pan o ni'n dechrau ffermio, dechrau cymryd drosodd mewn ffordd, oedd pobl yn really sylwi – hogan yn cymryd drosodd, hogan yn ffarmio felly, hogan yn pasio yn dreifio tractor, ond rŵan mae yna gymaint, does neb yn sylwi yr un fath."
Daeth Erin i'r byd amaeth yn fwy diweddar gan ddechrau ffermio yn 18 oed ar fferm ei thaid.
Nid y ffaith ei bod yn ferch oedd yn bwysig, meddai, wrth drafod ymateb pobl leol i'w phenderfyniad i amaethu yn hytrach na mynd i'r brifysgol
Gan ddechrau gyda 20 o ddefaid roedd hi wedi cynyddu'r nifer i 400 ar ôl 4 mlynedd.
"Oedd o'n amser heriol ond rhywbeth dwi'n falch iawn mod i wedi cymryd yr her ymlaen.
"Os da chi'n dangos yr angerdd a'r awch i ddysgu dyna sut 'da chi'n cael yr appreciation o fewn y diwydiant a dwi'n meddwl mai dyna'r ffordd ymlaen."

Mae Erin McNaught yn credu fod angen i ffermwragedd ddangos angerdd er mwyn cael eu gwerthfawrogi
Yn ogystal â gofalu am yr anifeiliaid mae hi wedi dechrau busnes yn cynnig gwyliau profiad fferm, yn enwedig i bobl o dramor.
"Ma' nhw eisiau cyfarfod y bobl go iawn o Gymru a chael y profiad o fod ar fferm. A rhywbeth dwi eisiau pwysleisio yw bod y diwydiant yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn un deinamig yn arloesol a dydi'r stereoteip o hen ddyn gyda ffon fugail a cap stabl – dydi o ddim yn wir bellach."
Ond mae yna rhai math o ddelweddau, meddai Gwenno, yn parhau ymhlith rhai yn y genhedlaeth hŷn.
"Dwi'n meddwl bod y genhedlaeth hŷn o fewn y diwydiant dal yn gweld elfen o wraig fferm sy yn y tŷ, dydi hi ddim allan yn ffermio, ma hi'n gwneud bwyd aballu ond mae'r genhedlaeth yn mynd yn ifengach rŵan a dwi'n meddwl bod pawb yn cael ei dderbyn ar yr un lefel."
Ychwanegodd y cyn enillydd Fferm Ffactor ar S4C. "Am fod i efo tair o genod, allai ddim dweud wrtho chi faint o bobl sy wedi dweud 'o un arall rŵan i gael hogyn bach i ni gael ffermwr bach' a rili da chi'n dweud hynny wrth rywun, dynes sy'n ffermio!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd28 Ionawr

- Cyhoeddwyd26 Ionawr
