Rhyddhau data: 11 diwrnod cyn i'r prif weinidog wybod

  • Cyhoeddwyd
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe glywodd y Prif Weinidog am gamgymeriad cyhoeddi data ar-lein gan Iechyd Cyhoeddus Cymru 11 diwrnod ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gael gwybod.

Roedd Mark Drakeford a Vaughan Gething yn trafod yr hyn ddigwyddodd, a phryd yr oeddynt wedi cael clywed y newyddion, mewn cyfarfod o'r Senedd ddydd Mawrth.

Roedd manylion dros 18,000 o bobl oedd wedi cael profion positif am coronafeirws wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn dilyn camgymeriad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Dywedodd y corff iechyd bod data 18,105 o bobl yng Nghymru ar gael ar-lein am 20 awr ar 30 Awst.

Yn y mwyafrif o achosion roedd blaenlythrennau, dyddiad geni, ardal ddaearyddol a rhyw, gyda ICC yn dweud bod y "risg iddynt gael eu hadnabod yn isel".

Ond ar gyfer 1,926 o bobl sy'n byw mewn "cartrefi nyrsio neu leoliadau caeedig eraill" roedd enw'r lleoliad hefyd wedi'i gyhoeddi.

Mae ICC wedi ymddiheuro am y camgymeriad.

'Rhybudd digwyddiad difrifol'

Dywedodd Mr Gething ei fod wedi cael "rhybudd digwyddiad difrifol" ar 3 Medi.

Ond dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ei fod wedi clywed y newyddion pan wnaeth ICC gyhoeddiad ddydd Llun.

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod pa bryd yr oedd swyddogion a gweinidogion eraill wedi cael clywed y newyddion.

Galwodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ar yr ysgrifennydd parhaol i ymchwilio i sut yr oedd y prif weinidog "yn honni iddo gael ei gadw yn y tywyllwch ar fater mor ddifrifol".

Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog, galwodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies AS ar y prif weinidog i ymddiheuro i'r rhai oedd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad.

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb, dywedodd Mr Drakeford: "Fe ges i wybod am dorri'r rheol ddata yma ddoe [dydd Llun] ac fe ddysgais amdano o ganlyniad i ddatganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru."

"Mae'n fater difrifol pan nid yw rheoliadau data'n cael eu dilyn yn gywir."

Ychwanegodd fod ICC wedi gwneud y peth cywir wrth ymddiheuro.

'Cwbl arferol'

Yn ddiweddarach, dywedodd Mr Gething wrth aelodau'r Senedd ei fod wedi cael clywed am yr hyn ddigwyddodd "gan rybudd digwyddiad difrifol ar 3 Medi", wedi i swyddogion gael clywed y newyddion ar 2 Medi.

"Mae hyn yn gwbl arferol," meddai.

"Nid ydym yn credu fod neb wedi eu niweidio. Ond mae'n achos difrifol o dorri'r rheol ac mae angen ei drin fel mater difrifol.

"Dyna pam fod ymchwiliad annibynnol," ychwanegodd, gan addo cyhoeddi adroddiad fydd ar gael yn gyhoeddus.

Wrth ymateb i gwestiwn pam fod pythefnos wedi mynd heibio cyn i'r cyhoedd gael gwybod am ryddhau'r data, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Roedd y amser rhwng y digwyddiad ei hun a'r cyhoeddiad yn cynnwys hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Llywodraeth Cymru, casglu cyngor cyfreithiol gan arbenigwyr GDPR, cynnal asesiad risg, cydlynu gyda'r GIG a phartneriaid mewn awdurdodau lleol am y digwyddiad a chama i leihau'r niwed, a sefydlu ymchwiliad annibynnol.

"Yn dilyn y camau hyn, fe wnaethom y cyhoeddiad ddydd Llun er mwyn cynyddu ymgysylltiad y cyfryngau a'r cyhoedd i'r eithaf."

Straeon perthnasol