Plentyn meithrinfa yn Aberystwyth wedi ei adael ar fws
- Cyhoeddwyd

Mae Meithrinfa Camau Bach ar safle Pencadlys y Mudiad Meithrin yn Aberystwyth
Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi digwyddiad yn Aberystwyth ddydd Mawrth pan adawyd plentyn, a oedd yng ngofal meithrinfa, ar fws mini am dros ddwy awr.
O ganlyniad, mae meithrinfa Camau Bach ym mhencadlys y Mudiad Meithrin yn y dre' wedi ei chau am wythnos ac mae'r achos wedi'i gyfeirio at Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a'r Bwrdd Diogelu lleol.
Dydd Mawrth oedd diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn, gyda'r tymheredd wedi cyrraedd dros 30C yn Aberystwyth, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mewn datganiad, dywedodd y Mudiad Meithrin: "Yn dilyn digwyddiad difrifol heddiw, pan adawyd plentyn - heb yn wybod i staff - mewn bws mini am dros ddwy awr tu allan i feithrinfa Camau Bach, cyfeiriwyd y mater yn syth i AGGCC (CSSIW) a'r Bwrdd Diogelu lleol.
"Gwaharddwyd yr aelod o staff oedd yn gyfrifol am y plentyn o'i gwaith yn syth.
"Mae ymchwiliad llawn i ddilyn ac er mwyn caniatáu hyn, mae Camau Bach ar gau am wythnos."
Cafodd y nodyn canlynol ei rannu i rieni ar dudalen Facebook y feithrinfa:
"Nodyn i rieni; Yn dilyn digwyddiad yn y feithrinfa heddiw mae Mudiad Meithrin wedi penderfynu cau'r feithrinfa am wythnos tan Ddydd Iau 28 Gorffennaf, er mwyn cynnal a chadw a hyfforddi staff. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra."