£3.6 miliwn i hybu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd yn un o enillwyr mawr y cyhoeddiad, yn derbyn £852,184 o gymorth yn 2015-16
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi fod £3.6 miliwn o gymorth ariannol wedi ei glustnodi ar gyfer hybu'r Gymraeg yn ystod 2015-16.
Fe fydd 34 sefydliad yn elwa o'r arian ar gyfer hybu'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr a'r Urdd.
Yn ogystal, fe fydd Mentrau Iaith yn derbyn o leiaf £60,000 yr un ar gyfer y flwyddyn fel rhan o gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth i gynyddu'r arian sylfaenol ar gyfer y mentrau.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn derbyn grant ychwanegol o £60,000 ar gyfer cynlluniau cerddoriaeth Cymraeg newydd.
'Iaith fyw'
Dywedodd y Prif Weinidog: "Dyma becyn sylweddol o gymorth ariannol a fydd yn helpu â'r gwaith o hybu'r Gymraeg mewn trefi a chymunedau ar draws Cymru yn ystod 2015-16.
"Mae'r Llywodraeth yn awyddus i sicrhau iaith fyw sy'n ffynnu a bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflawni'r ymrwymiadau sydd wrth wraidd Bwrw Mlaen.
"Hoffem annog pobl i fod â'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac o fewn eu cymunedau lleol.
"Bydd y pecyn hwn o arian yn ein helpu i gyflawni hyn.
"Bydd yn ei gwneud hi'n bosibl i ddatblygu prosiectau newydd, gwahanol a chyffrous sy'n cefnogi gweithgareddau Cymraeg ar lawr gwlad ac yn creu rhagor o gyfleoedd."
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ogystal fanylion 12 cynllun llwyddiannus fydd yn elwa o gronfa arloesi Bwrw Mlaen, fydd a gwerth o £300,000 yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r cynlluniau llwyddiannus yn amrywio o gymdeithasau cenedlaethol fel Ffermwyr Ifanc Cymru i glybiau lleol fel Clwb Rygbi Caernarfon.
Nod arian Bwrw Mlaen yw hybu a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.