Cofio milwyr y Rhyfel Mawr
- Cyhoeddwyd

Aeth Robert Evans i Goleg Bala-Bangor yn 1913 cyn ymuno â'r lluoedd meddygol yn 1914
Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi darganfod hanesion rhai o'r milwyr o Gymru fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf bron 100 mlynedd yn ôl.
Roedd y myfyrwyr wedi edrych yn fanwl ar ddeunydd nad oedd wedi ei astudio o'r blaen, gan gynnwys dyddiaduron a lluniau.
Mae'r deunyddiau yn eitemau gwerthfawr a phersonol ar fenthyg gan bedwar teulu, gan gynnwys teulu'r Parchedig Dr R Alun Evans.
Prynhawn Llun mae Dr Evans ar Faes yr Eisteddfod wrth i'r prosiect gael ei lansio'n gyhoeddus.
Meddygol
Mae'r myfyrwyr wedi astudio dros 250 o lythyrau, lluniau a dyddiaduron milwyr y cyfnod er mwyn dysgu mwy am effaith y rhyfel
Un o'r dynion dan sylw oedd tad Dr Evans, Robert.
Fe adawodd Goleg Annibynnol Bala Bangor i ymuno â lluoedd meddygol y fyddin yn 1914.
Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio dan arweiniad Dr Gethin Matthews, darlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe.
"Prif nod y prosiect yw cael gwell dealltwriaeth o'r milwyr, eu syniadau, gobeithion ac ofnau, wrth iddyn nhw wynebu'r rhyfel.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i astudio dros 250 o lythyrau, lluniau a dyddiaduron.
"Mae'r dystiolaeth wedi ein galluogi i roi cig ar yr esgyrn a chael gwell syniad o'r gymdeithas yr oedden nhw'n rhan ohoni.
"Drwy lansio'r dystiolaeth newydd yn yr Eisteddfod, rydw i'n gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl am wir effaith y rhyfel ar Gymru a'i chymdeithas."
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ddigidol ar wefan y brifysgol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel a bydd y gwaith yn cyfrannu at gyfrol am y Rhyfel Byd Cyntaf a'i ddylanwad ar Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2013

- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
