Warburton i arwain y Llewod am y tro cynta' ar y daith
- Cyhoeddwyd

Collodd y capten Sam Warburton dwy gêm gynta'r daith oherwydd anaf i'w ben-glin
Mae Capten y Llewod Sam Warburton a'r prop Gethin Jenkins wedi eu henwi am y tro cynta' ar y daith i Awstralia, wrth iddyn nhw wynebu Queensland Reds ddydd Sadwrn.
Mae Warburton, 24, wedi gwella o anaf i'w ben-glin, a Jenkins wedi goresgyn problem gyda'i goes.
Bydd pedwar Cymro arall ymhlith 15 y Llewod - Dan Lydiate, Toby Faletau, Alex Cuthbert a Jonathan Davies.
Mae pedwar Cymro arall ar y fainc - Richard Hibbard, Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a George North.
Mae'r Llewod wedi galw ar y prop Alex Corbisiero, wedi i Cian Healy gael anaf yn ystod y gêm yn erbyn Western Force ddydd Mercher. Bydd yn cael sgan ar ei bigwrn chwith ddydd Iau.
Cafodd gwrandawiad disgyblu i honiadau fod Healy wedi brathu un o chwaraewyr Western Force, Brett Sheehan, ei ohirio tan ddydd Gwener.
LLEWOD PRYDAIN AC IWERDDON v. QUEENSLAND REDS:
Stuart Hogg, Alex Cuthbert, Manu Tuilagi, Jonathan Davies, Tommy Bowe, Owen Farrell; Ben Youngs; Gethin Jenkins, Tom Youngs, Matt Stevens, Richie Gray, Geoff Parling, Dan Lydiate, Sam Warburton, Toby Faletau.
Eilyddion:Hibbard, Vunipola, A Jones, O'Connell, Tupiric, Murray, Sexton, North.