BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
Sarah Williams a'i ffrindiauLlythyr o Gaerdydd...
Tachwedd / Rhagfyr 2008
Mae Sarah Williams, gynt o Hwlffordd, newydd gael swydd yng Nghaerdydd ac yn mwynhau mas draw. Mae hi wedi addo ysgrifennu at Dan y Landsker o bryd i'w gilydd.

Dwi yn fy swydd newydd ers dau fis erbyn hyn a dw i wrth fy modd yno. Mae wastad rhywbeth i'w wneud yng Nghaerdydd ac mae pobl yn y gwaith yn hyfryd. Mae cryn dipyn o bobl ifanc yn gweithio yn y swyddfa ac rydyn ni'n cymdeithasu gyda'n gilydd y tu allan i'r gwaith, sydd yn fy helpu i ddod i nabod Caerdydd a phobl newydd.

Dw i'n brysur iawn yn y gwaith. Dw i'n rhannu f'amser rhwng swyddfa Acen a swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays lle dw i'n gweithio gyda staff y Llywodraeth sy'n dysgu'r Gymraeg. Dw i'n cydlynu gweithgareddau ar eu cyfer. Dw i'n trefnu sesiynau Coffi a Chlonc ac yn trefnu i bobl enwog ddod i siarad â'r dysgwyr. Hyd yn hyn, dw i wedi cael Robin McBryde a Rebecca Harries (Belonging, Sali Mali a Con Passionate). Cyn bo hir, bydd Gillian Elisa a Mihangel Morgan yn dod.

Dwi wedi dysgu ambell i ddosbarth hefyd a oedd yn dda. Dw i'n mwynhau dysgu oedolion gan eu bod yn frwdfrydig iawn ac eisiau dysgu'r iaith.

Dw i'n hoff iawn o'r ddinas achos mae cymaint i'w wneud yno.

Mae digon o siopau ac mae Bae Caerdydd yn ardal ardderchog sydd wedi datblygu'n fawr yn ddiweddar. Es i weld Chitty Chitty Bang Bang ym mis Awst yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd hi'n wych ac roedd Aled Jones yn anhygoel.

Dyna i gyd oddi wrthyf am y tro, tan y tro nesaf.....


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy