BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
Lowri EvansO Sir Benfro i ben draw'r byd
Mai 2007
Gair gyda Lowri Evans, cantores o dde Sir Benfro.
Mae hi wedi bod yn ddeufis prysur iawn i griw Dan y Landsker, gydag un parti gwyllt ar ôl y llall, a Clyw Sibrydion gan Lowri Evans yw'r record sydd o hyd yn cael ei throelli er mwyn lleddfu'r cur pen y bore wedyn.

Fe ofynnon ni wrth y gantores amryddawn o Dde Sir Benfro am ychydig o'i hanes.

"Dechreues i gael gwersi canu pan oeddwn yn saith mlwydd oed, a hyd at oeddwn i yn ddeunaw fe fues yn cystadlu mewn Eisteddfodau, yn canu yn unigol, deuawdau a chorau. Dechreues i fand yn yr ysgol ac enillon ni gystadleuaeth ar Uned 5 am y band gorau yng Nghymru o dan 18! .

Es i'r coleg yn Newcastle pan oeddwn i'n ddeunaw oed i astudio gradd yn Jazz, Pop a Commercial Music. Roedd y cwrs yma yn brofiad ffantastig oherwydd roedd rhaid i bawb berfformio mewn band ddwywaith y flwyddyn a chael eu graddio ar y perfformiadau hynny. Rhoddodd hyn lawer o hyder i mi a dechreues i fand iawn yn y coleg. Cafon ni gyfle i recordio dwy CD yn yr amser hyn a chwareuon ni yng Ngŵyl Roc a Phop Leeds hefyd!

Ar ôl blwyddyn o fyw yn Newcastle, fe benderfynais fynd i deithio gyda'n 'whaer i Dde a Chanoldir America a Mexico am bum mis. Cafon ni amser da a llawer o brofiadau bythgofiadwy - rafftio dŵr gwyn yn Peru, plymio scuba yn Honduras, seiclo lawr llosgfynydd yn Ecuador! Roedd y band wedi gorffen erbyn hyn, ac ar ôl i fi ddod yn ôl i Gymru, es i ati i ddechrau chwarae yn unigol.

Yn 2004 ges i fy ngwobrwyo am y sesiwn byw gorau ar Radio Sir Benfro a CD yr wythnos ar Radio Ceredigion. Ges i gais hefyd i rhoi un o'm caneuon i ar y CD `Pembrokeshire Acoustic Sessions' i godi arian at yr Apêl Tsunami.

Yn gynnar yn 2005 cwrddais i â Lee Mason, ac ers 'ny mae e wedi bod yn chwarae gitâr gyda fi. Rvdym wedi recordio E.P. Saesneg ers hynny, wedi recordio a rhyddhau albwm Gymraeg -`Clyw Sibrydion' gyda Stiwdio Fflach ar label RASP - ac ar fin rhyddhau albwm Saesneg `Kick the Sand' ym mis Ebrill 2007.

Rydym yn brysur yn chwarae o amgylch Sir Benfro, Abertawe a Chaerdydd, ac wedi perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Cenhedloedd Bychain yng Nghil y Cwm, Gŵyl Wychwood yn Cheltenham, Gŵyl y Celtic Blue Rock yn Llanfyrnach a llawer mwy."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy