Rhag ofn inni fod yn gyff gwae am byth, amser inni roi ein bys yn y brywes a chodi calon.
Mae tuedd i anwybyddu rôl y seintiau ar wahân i Dewi, yn arbennig ein Teilo a gafodd ei eni ger Penalun. Mae'n wir fod pobl, cyn cyfnod y Normaniaid hyd yn oed, yn ystyried bod Dewi ychydig yn fwy enwog na'r lleill, ond roedd ymdrech gan y boyos yno i sicrhau y byddai pawb yn cydnabod uchafiaeth esgobaeth Tyddewi; adlewyrcha bywgraffiad Dewi gan Rhigyfarch (tua 1080) hyn. Tua 1120 roedd brwydr ffyrnig rhwng yr esgob (1107 - 39) Normanaidd Urban yn Llandaf a'r esgob Normanaidd Bernard yn Nhyddewi, ill dau ati yn ailysgrifennu hanes i drio cynyddu eu tiroedd ar draul y llall - Tyddewi enillodd y gêm bropaganda. Y gwir amdani yw bod Dewi a Teilo yn ffrindiau.
Er nad ydym cweit mor brofiadol mewn sgiliau lobïo a boyos Tyddewi, rydym yn ystyried ysgrifennu at y Pab i newid dipyn reol Callistus II (fod dwy bererindod i Dyddewi gyfwerth ag un i Rufain), i sicrhau y bydd y twristiaid yn ymweld ag Ynys Byr, Penalun a Phenfro ar eu ffordd yno.
Rhaid dechrau stori Oes y Seintiau gyda Dyfrig Cadog ac Illtud, oherwydd ardal Gwent, Gorllewin Sir Henffordd a dwyrain Morgannwg oedd Canolfan Cristnogaeth bwysicaf y cyfnod cynnar. Yn sgil brwydr Mynydd Baddon ar ddechrau'r 6ed ganrif a than tua 550, roedd sefyllfa wleidyddol Gorllewin Prydain yn sefydlog, heb fygythiadau gan y Saeson.
Yn y de-orllewin, roedd Gwyddelod wedi ymsefydlu ers cyfnod y Rhufeiniaid un ohonynt oedd y brenin Brychan, ond Brythoniaid da oedd ei ddisgynyddion; chwaraeon nhw ran bwysig yn y chwyldro crefyddol. Grym milwrol oedd ei angen e.e. gan Urien Rheged, i gymathu'r Gwyddyl Fichti mewn ardaloedd eraill fel gorllewin Morgannwg a Sir Gâr. Eithriad oedd Sir Benfro, yn arbennig gogledd y Sir, fel y tystia'r meini ac arnynt ysgrifen Ogham a Lladin; (ceir rhyw 6 ym Mrycheiniog hefyd) Dylid gweld y seintiau Gwyddelig fel partneriaid yn y chwyldro crefyddol, ac y mae'n debygol bod ardal Tyddewi, adeg Dewi, yn gymysgedd o Wyddelod a Brythoniaid.
Athrawon y Seintiau
Dyfrig
Yn chwarter cyntaf y 6ed ganrif, roedd y seintiau fel Dyfrig, Illtud a Cadog yn rhai ysgolheigaidd. Roedd llawer o'u disgyblion fel Dewi, Teilo, Deiniol, Samson a Beuno - arwyr y cyfnod 525 - 580 yn rhai asgetig. Dyfrig oedd tad yr adfywiad Cristnogol a ddechreuodd fyrlymu yn y cyfnod cynnar - fe oedd y ddolen gyswllt rhwng yr hen drefn Rufeinig, oedd yn dal i oroesi yng Ngwent a'i ffrindiau ac oes newydd y mynaich-seintiau. Roedd yn fab i frenin Ergyng ac yn ŵyr i'r brenin Brychan. Sefydlai fynachlogydd neu ganolfannau Cristnogol yn y de ddwyrain. Roedd yn Esgob Caerllion tua 490 ac yn Archesgob De Prydain; fe oedd awdurdod y tu ôl i sefydlu canolfannau fel Llancarfan a Llanilltud a chanddo fe yn unig yr hawl i ordeinio - cafodd Samson a Deiniol eu hordeinio ganddo. Rhoddwyd iddo diroedd ym Mhenalun, Sir Benfro yn ôl Llyfr Llandaf. Byddai'n ymweld ag Ynys Byr (Caldey) adeg y Grawys a rhoi hyfforddiant i'w ffrind Teilo. Ar yr ynys daethpwyd o hyd i faen gyda'r ysgrifen "Magl Dubr" (gwas Dyfrig). Ar ôl ymddeol aeth i fyw ar Ynys Enlli.
Illtud
Roedd Illtud (c475 - c537) "o'r holl Frythoniaid y mwyaf dysgedig" yn ol Vita Samsonis (y cyntaf o fywgraffiadau'r seintiau a ysgrifennwyd yn Llydaw ac yng Nghymru. Efe oedd athro mwyaf y seintiau yn ei ganolfan yn Llanilltud Fawr. Roedd y lle fel prifysgol i'r holl Geltaidd - deuai disgyblion ato o Lydaw, o "Gymru", o'r hen Ogledd, o dde orllewin Prydain ac o Iwerddon. Samson Paul Aurelian, Dewi a Gildas oedd ei ffefrynnau. Fe aeth i Lydaw (i ymweld â Paul, Esgob Leon) fel bron pob un o'r seintiau, oherwydd roedd Llydaw fel gwladfa Frythonaidd. Roedd ganddo ganolfannau ym Mro Gŵyr, a sefydlodd fynachlog ar Ynys Byr (Caldey). Cred rhai bod dryswch weithiau rhwng Ynys Byr, Sir Benfro ac Ynys Peirio, Barry Island.
Cadog
Athro enwog arall oedd Cadog (c497 - c577), yn ei ganolfan yn Llancarfan, ger ei ffrind Illtud lle roedd y ddau wedi bod yn filwyr. Yr oedd yn athro e.e. i Deiniol, Malo ac i Finnian o Iwerddon. Roedd yn boblogaidd yn Iwerddon, lle treuliodd e dair blynedd yn eu helpu i sefydlu mynachlogydd - daeth adre gyda disgyblion Gwyddelig i Lancarfan. Roedd yn ffrind mawr i Gildas ac fe aeth y ddau i Iwerddon. Roedd yr eglwys yn Iwerddon yn falch o'r help a gawsom nhw gan Cadog, Gildas a Dewi. Treuliodd Finnian (c.475 - c.548) flynyddoedd lawer gyda Cadog (a Gildas) yn Llancarfan, neu Flatholm.
Treuliodd amser gyda Dewi (tua 530) cyn dychwelyd i Iwerddon a sefydlu mynachlogydd fel yr un enwog yn Clonard (tua 533), gan ddilyn y patrwm Cymreig. Un o brif seintiau Iwerddon, roedd Finnian yn athro i Columba o Iona, Brendan the Navigator a Ciaran. Efallai i Brendan astudio yn Llancarfan hefyd. Gwahoddwyd Gildas i Iwerddon tua 568 gan y brenin i aildrefnu mynachaeth ac fe aeth a mynaich o Lancarfan ac o Dyddewi.
Nid yw'n glir a aeth Dewi ei hunan dros y môr, ond daeth seintiau Gwyddelig ato fe i astudio. Ar ôl astudio gyda Dewi, aeth Aidan i Iwerddon, lle roedd yn Esgob Ferns - nid yw'n glïr ai Brython ynteu Gwyddel ydoedd. Fe aeth yr enwog Samson drosodd hefyd.
Ar yr un adeg cafodd Dewi a Teilo addysg gan Paulinus (Penlin) yn ei fynachlogydd yn Llanddeusant a Hendy Gwyn ac adfer golwg yr athro dall wnaeth Dewi. Flynyddoedd wedyn perswadiodd Paulinus, yn ogystal â Deiniol a Dyfrig - Dewi i ddod i'r synod yn Llanddewi Brefi. Mae'n debygol fod y Paulinus yma yn wahanol i'r Paul Aurelian a aeth i Lydaw.
Y tro nesaf, byddaf yn sôn am gyfnod aur y mynaich-seintiau y rhai oedd yn cenhadu ac yn sefydlu mynachlogydd a chanolfannau crefyddol. Nid oedd y môr yn rhwystr iddynt ond fel petai'n draffordd, gyda mynd a dod cyson rhwng Cymru, de orllewin Prydain, Llydaw, Iwerddon a thu hwnt. Yn y gwledydd Celtaidd bu'r seintiau'n arwyr ac nid ydym wedi anghofio amdanynt. Wrth sefydlu llannau trwy'r wlad, byddai'r seintiau yn dechrau cymunedau Cristnogol, gyda thir cysegredig i gladdu'r meirw. I raddau, wrth gwrs gellir ystyried fod y seintiau - dynion a menywod fel ei gilydd wedi disodli'r hen dduwiau a hwyluso'r dröedigaeth i Gristnogaeth. Ond y gwir amdani yw, hefyd, fod ein hanes yn frith gan arwyr ymhob cyfnod - mae hyn yn rhan o'r traddodiad Cymreig.
Martin Lewis