BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
Bethan Devonald gyda Shane WilliamsDiwrnod Bethan â'r Gweilch
Ionawr / Chwefror 2009
Cafodd Bethan Devonald wahoddiad arbennig i ymuno â chwaraewyr o ranbarth rygbi'r Gweilch ar gyfer cinio Nadolig.

Teithiais i i Abertawe gyda fy nhad ar Ragfyr 16eg. Anelu am Stadiwm Liberty oedden ni i gael cinio gyda thîm rygbi'r Gweilch. Roeddwn i wedi dathlu fy mhenblwydd yr wythnos gynt a ches i gerdyn gan Mam a Dad i ddweud fy mod i'n mynd i gael cinio Nadolig gyda'r Gweilch. Roeddwn i'n llawn cyffro.

Pan gyrhaeddon ni'r stadiwm, aethon ni i Siop y Gweilch yn gyntaf. Prynais i lyfr llofnodion a sticer am fy nghar. Yn y siop roedd un o hyfforddwyr y tîm, sef Jonathan Humphreys. Roedd e'n siarad â Dad. Ar ôl hynny, aethon ni drwy brif fynedfa'r stadiwm heibio'r ddesg ac roeddwn i'n gallu gweld Mike Phillips, sy'n chwarae fel mewnwr, yn y gornel a rhedais i draw ato.

Roedd y Gwyddel Tommy Bowe yno ac Ian Gough. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i yn yr un ystafell â rhai o chwaraewyr gorau'r byd.

Y person nesa welais i oedd Gavin Henson. Fe ydy fy hoff chwaraewr erioed. Arhosais i yn y ciw i'w weld e yn syth. Ces i ei lofnod e a gofynnais i petaswn i'n gallu cael ffoto gyda fe. Dwedodd e "Dim problem" a rhoi ei fraich amdana i am y ffoto. Doeddwn i ddim yn gallu ei gredu, roedd braich fy arwr ar fy ysgwydd ac roeddwn i'n siarad â fe! Dyna oedd uchafbwynt y dydd i mi!

Aeth pawb lan y grisiau wedyn i ystafell fawr. Roedd tua ugain bwrdd mawr a bar yno. Roedd gweddill tîm y Gweilch yno. Roeddwn i'n gallu gweld Jonathan Thomas o'm mlaen i ac es i draw ato. Dwedodd Dad ein bod ni'n dod o Sir Benfro fel fe. Ces i lofnodion a ffotos gyda phawb gan gynnwys James Hook a Chwaraewr Rygbi'r Byd 2008, Shane Williams.

Pan sefais ar bwys Shane, yr un taldra oedden ni. Roedd dau chwaraewr ar bob bwrdd gyda chi. Roedd Paul James, y prop, ac Ashley Beck, chwaraewr newydd gyda ni. Roedd y ddau'n neis iawn a doniol ac roedd y bwyd yn flasus iawn.

Ar ôl y pryd o fwyd, aeth rhai o'r chwaraewyr i ymweld â chleifion ysbyty. Roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yno yn ystod y bore hefyd.

Ces i ddiwrnod bendigedig a baswn i'n argymell i unrhyw un am 2009. Bydda i'n mynd eto.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy