BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
Bryn Terfel a Tim Rhys EvansDyfodol electronig yn canu cloch
Mawrth / Ebrill 2009
Mae Bryn Terfel a Tim Rhys Evans wedi uno i greu cân ar gyfer Gwyl Ddewi.

Mae Bryn Terfel ac arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys Evans wedi dod at ei gilydd i gefnogi lansio cyhoeddi maniwscript ar y we, cân arbennig dydd Gwyl Dewi, sydd wedi cael ei mabwysiadu fel cân swyddogol Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi (GGGD).

Dathlwyd cyhoeddi maniwscript y gân, 'Cenwch y Clychau i Dewi' ar y we trwy gyflwyno'r copïau cyntaf o'r gân i Bryn Terfel a Tim Rhys Evans, a bu'r gân ar gael i'w phrynu o wefan Y Lolfa - www.ylolfa.com ers y 5ed o Chwefror - y tro cyntaf erioed i gyhoeddiad Cymraeg gael ei werthu ar y we ar ffurf electronaidd.

Meddai Tim Rhys Evans: "Mae'n bleser ac anrhydedd mawr i ni gyd yn Only Men Aloud i fod y cyntaf i dderbyn y gân newydd gyffrous yma i ddathlu Nawdd Sant ein cenedl. Pob lwc i Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi am flynyddoedd maith o lwyddiant mewn cân ac ysbryd."

Derbyniodd Bryn Terfel y copi cyntaf, sef yr un i Biano a Llais o'r gân a Tim Rhys Evans y fersiwn cyntaf o'r gân i Gôr Meibion oddi wrth Gwenno Dafydd, wnaeth ysgrifennu geiriau'r gân yn Gymraeg a Saesneg. Heulwen Thomas wnaeth gyfansoddi'r gerddoriaeth wreiddiol i biano a llais ac fe wnaethpwyd y trefniannau Côr Meibion, Côr Merched a Chôr Cymysg gan Eilir Owen Griffiths.

Bydd pedair fersiwn y caneuon ar gael i'w prynu am £2 yr un (pris gostyngol wrth brynu 5 copi neu ragor) oddi ar wefan Y Lolfa - www.ylolfa.com.

Meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa: "Bu'n bosib prynu e-lyfrau Saesneg oddi ar y we ers peth amser, ond mae'n fraint gyda ni nawr i fod y wasg gyntaf i werthu e-lyfrau Cymraeg. Yn ogystal â gwerthu'r pedair fersiwn o 'Cenwch y Clychau i Dewi', mae'n fwriad gennym i werthu nifer o nofelau a gwerslyfrau ar ffurf e-lyfrau."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy