BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
JulietBeth yw bahasa yn Gymraeg?
Tachwedd / Rhagfyr 2007
Juliet ydw i. Rwy'n dod o Indonesia yn wreiddiol. Rwy'n briod â Chymro di-Gymraeg, ac rydyn ni'n byw ym mhentref bach Simpsons Cross ar gyrion Hwlffordd.

Rwy'n hoffi teithio, chwarae tenis, canu'r piano, darllen, dysgu ieithoedd estron, coginio a thyfu llysiau.

Indonesieg yw fy mamiaith, ond rwyf hefyd yn siarad Malay, Mandarin, Saesneg, Almaeneg a thipyn bach o Ffrangeg. Mae Cymraeg ar y ffordd gobeithio!

Pan glywais i Gymraeg yn cael ei siarad, roedd yn ddiddorol ac wedi tynnu fy sylw. Felly, es i ar gwrs Carlam yn Aberystwyth i gael blas ar yr iaith. Roedd yn anodd ac yn her fawr i mi ddysgu.

Ymaelodais i ar gwrs rhan amser i oedolion unwaith yr wythnos yn Hwlffordd. Es i ddim i'r dosbarth yn gyson, oherwydd rhaid oedd i fi fynd dros y môr yn achlysurol i ymuno â fy ngŵr oedd yn gweithio yn Indonesia ar y pryd. Dysgais i nawr ac yn y man am dros dair blynedd nes i fi gael tystysgrif arholiad Defnyddio'r Gymraeg i Oedolion. Treuliais i fwy o amser dramor, a gadewais i ddysgu Cymraeg am dros bedair blynedd.

Cymru yw fy nghartref nawr, mae'n bwysig i fi siarad yr iaith frodorol, felly penderfynais i ddysgu Cymraeg eto cyn Eisteddfod Tyddewi 2002. Es i ddosbarthiadau deirgwaith yr wythnos, es i'r Ysgol Haf, Cwrs Penwythnos, Sadwrn Siarad a gweithgareddau CYD mor aml a medrwn i achub cyfle i ymarfer y Gymraeg. Mae gen i golofn pob mis ym mhapur bro'r Llien Gwyn, Abergwaun.

Helpais i yn Eisteddfodau Tyddewi, Meifod ac Abertawe fel stiward ac ym mhabell y dysgwyr. Trefnais i barti bwyd Indonesaidd i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod a'r papur bro. Wnes i arddangos coginio yn Eisteddfod Tyddewi, yn y Noson Gymraeg, Cymdeithas Osteoporosis, ac yng nghyfarfodydd CYD. Hefyd, rwy wedi paratoi bwyd gwerin Indonesiaidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, roedd yn llwyddiant. Rwy bob amser yn barod i helpu pan ddaw cyfle!

Rwy' wedi ymddangos yn fyw ar raglen Prynhawn Da, lle coginiais i fwydydd Indonesiaidd, ac hefyd cymerais i ran yn y rhaglen Cwpwrdd Dillad, yn gwisgo dillad traddodiadol Indonesia.

Ennill gwobr gyntaf Cystadleuaeth Ysgrifenedig Merched y Wawr ar gyfer Dysgwyr yn 2006Enillais i'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth ysgrifenedig Merched y Wawr ar gyfer dysgwyr llynedd, rwy wrth fy modd. Ar ôl hynny, ces i gyfweliadau ar gyfer papurau, rhaglen deledu Wedi 3 a Radio Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi eu sylw ac yn falch bod fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod.

Rwy wedi magu digon o hyder i siarad Cymraeg bob amser a theimlo'n agos iawn mewn cymdeithas Gymraeg, rwy'n hapus a bodlon yn eu plith! Felly, rwy'n trefnu cyfarfod hamddenol unwaith y mis i ddysgwyr brwdfrydig i ddod at ei gilydd i ymarfer Cymraeg a chadw'r heniaith yn fyw.

Cymru yw fy ngwlad nawr, rwy'n cynefino'n fodlon, rwy'n awyddus i ddysgu'r iaith ac annog y di-Gymraeg i ddilyn yr un llwybr. Rwy'n ysu i hyrwyddo'r heniaith bob amser pan ddaw cyfle.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy