Dim ond £19 i fynd ar awyren o Lundain i Santiago de Compostela yng ngogledd Sbaen. Roedd pris y bws o Aberdaugleddau yn fwy na'r awyren! Hedfanon ni (y fi a'r hen feic plygedig) ar ddydd Sul yr ail-ar-bymtheg o Ragfyr.
Ar ôl glanio yn Santiago yn hwyr yn y prynhawn ges lety yn yr un lle a arhosais ar fy ngwyliau ym mis Mehefin. Nid wyf yn trefnu llawer o flaen llaw achos ei bod yn amharu ar yr antur. Cymerais y dydd Llun a'r dydd Mawrth i gynefino â'r wlad, cael fy ffôn symudol i weithio a darganfod lle i anfon e-bost. Roeddwn yn bwriadu beicio tua chant a hanner o filltiroedd ar hyd y camino - llwybr y pererinion - i Santiago.
I wneud hyn es i ar daith bws o bedair awr dydd Mercher i Ponferrada (pont haearn yw ystyr y gair yn Sbaeneg ac mae hen bont haearn yn croesi'r afon yno). Ar ôl disgyn o'r bws a chael pryd o fwyd yn arosfa'r bysus - rwyf wedi dysgu fod prydau o fwyd yn y llefydd hyn yn rhad ac yn dda a ma' tipyn o wa'd y Cardi 'da fi.
Doedd Molinaseca, y lle yr oeddwn yn bwriadu aros y nos, ddim yn bell i ffwrdd - ond lan rhiw bob cam. Cyrhaeddais i yno tua phedwar o'r gloch ond roedd y refugio ar gau. Refugio yw'r enw Sbaeneg ar hosteli sydd wedi eu hadeiladu neu eu haddasu ar gyfer pererinion i aros dros nos yn rhad neu am ddim yn nhalaith Galicia, yr ardal uwchben Portiwgal. Roedd nodyn ar y drws i ffonio Alfredo am wybodaeth. Roeddwn wedi cael tipyn o drafferth gyda fy ffôn symudol ers glanio, ond stori arall yw honno, y ffaith oedd nid oedd yn gweithio. Es draw i'r tŷ gyferbyn ond nid y wraig yno eisiau fy helpu - peth anarferol iawn yn Sbaen os ydych yn ceisio siarad mewn Ysbaeneg. Gofynnais i weithwyr a oedd yn ehangu'r tŷ drws nesaf ac fe ffonion nhw Alfredo ar unwaith ar ei ffôn symudol, ond `roedd Alfredo ddim yn ateb.
Es i lawr i'r pentref a gofyn i rai o'r pentrefwyr am Alfredo ac roedd un yn gwybod rhif ei ffôn symudol, a chysylltodd ag e ar unwaith. Daeth Alfredo yn ôl â newyddion drwg; roedd y refugio ar gau am fod cyn lleied o bererinion yn amser y gaeaf a bydde hi yn well i fynd yn ôl i'r hostel yn Ponferrada.
Ond, roeddwn i wedi dringo i fyny, a cholli tipyn o chwys i ddod yno, a pheth arall oedd bod pennod o fy llyfr teithio yn dechrau o Molinaseca. Dywedais wrth Alfredo nad oeddwn yn poeni fy mod ar ben fy hun, na fod dim dŵr twym na gwres yn y lle (Dw i yn gallu dweud celwydd!), ac y dylai pererinion dioddef.
Agorodd y drws! Edrychais dros yr ystafell; adeilad mawr fel capel gyda lle tân coed anferth yn y canol, a phump ar hugain o welyau. Y peth pwysig oedd bod nwy yno i ferwi sosban.
Y peth cyntaf oedd rhaid ei wneud oedd mynd lawr i'r pentref i siopa am fwyd at y bore, a matsen. Pentref bach iawn, hynafol yw Molinaseca gyda hen bont Rufeinig, eglwys Gatholig fawr a siop fach. Yn y siop prynais fwyd, a gyda thipyn o drafferth am fy mod wedi anghofio'r gair Sbaeneg am fatsys (fosforos), fe ges i bopeth o'r diwedd. Ar y ffordd yn ôl i'r refugio aeth yr haul i lawr ac roedd y tymheredd yn gostwng ar frys. Nid oedd y tymheredd wedi codi dros y rhewbwynt trwy'r dydd; nid Sbaen y Costa del Sol yw Galicia.
Roedd tanwydd ar bwys rhai o'r tai a daeth rhyw feddwl drosof o ddwyn peth at fy nhân ond roedd fy magwraeth yng nghapel Nebo yn rhy gryf!
Pan gyrhaeddais y refugio fe ferwais baned o laeth a chwiliais o amgylch y lle am danwydd. O fewn hanner awr roedd gennyf dân a digon o wres i ysgrifennu fy nyddiadur o leiaf, ond dim yn ddigon i wresogi'r adeilad anferth. Es i'r gwely gan ddefnyddio blancedi o bedwar gwely i fi fy hun!
Teifryn Williams o Aberdaugleddau