Wedi teithio'n hir trwy Gymru, Lloegr, Ffrainc a dros y ffîn i Sbaen, gydag aelodau o Ysgolion Penweddig a Dyffryn Teifi yn gwmni ar y bws, daethpwyd o'r diwedd i'r ganolfan ger Tossa, ac yno y gwnaethom aros am bum noson gan fwynhau cyfleusterau'r gwersyll a'r traeth cyfagos.
Dyma ganolfan tebyg iawn i Langrannog gyda ffreutur fwyd a phwll nofio yn
ganolbwynt, a phawb yn aros mewn cabanau pren o gwmpas y safle. Nid yw'r traeth ymhell a cheir parti a disgo pob nos.
Ond nid y gwersyll oedd yr unig atyniad; cafwyd diwrnod llawn antur yn Port Aventura, un o brif barciau antur Ewrop, a diwrnod gwlyb a gwyllt ym Mharc Dŵr Water World. Buasai taith i Gatalonia ddim yn gyflawn heb ymweliad â Barcelona, ac yno cafwyd ymweliadau â Nou Camp, cartref y tîm Pêl-droed enwog; Parc Guell, Eglwys y Sagrada Familia a'r Castell uwchben y Ddinas.
Ac wrth gwrs, i'r merched, cyfle i siopa yn ardal yr harbwr ac ar Las Ramblas.
Ymwelwyd hefyd a thref glan-môr Tossa er mwyn gwneud ychydig o siopa anrhegion ac i sugno mewn yr awyrgylch nwydus Catalanaidd.
Wythnos fythgofiadwy, gydag atgofion melys am yr haul a'r gwres (a'r llosgi
croen er gwaethaf yr holl eli haul!), y pwll nofio a'r cwch banana, y pizza a'r
hufen iâ a'r morgrug ym mhob man, ond yn bennaf am yr hwyl ddiddiwedd a'r cyfeillion oes newydd sbon. Mae'r holl luniau'n dweud y cyfan!
Diolch i Elen, Samantha, Elizabeth, Claire, Megan, Fran, Sian, Murali, Abby,
Hannah, Gwenllian, Adam, Rhys, Gethin a Gareth am y cwmni a Dyfed ac Eleri Mai am gadw trefn!