Er nad yw Trefdraeth dan y landsker, o fewn i Barc Cenedlaethol Sir Benfro mae hi gyda chastell, tref, afon, traeth a digon o leoedd i fwyta ac yfed.
Roedd hi'n ddechreuad da iawn i fis Mai, gwyl wanwyn, gyda thywydd dydd Sadwrn yn berffaith, felly penderfynais i fynd lan i gael blas ar yr awyrgylch.
Roedd amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys taith gerdded yn Gymraeg neu Saesneg, gydag hanesyddion lleol neu wardeniaid y Parc Cenedlaethol.
Cawson ni ddawnsio Bedwen Fai i'r ffidil a'r accordion, gyda phob un yn mwynhau. Yn ogystal, roedd cestyll bownsio a phebyll yn gwerthu crefft, bwyd a diodydd.
I'r rheiny sy'n hoffi cadw'n iach, roedd rasus ar gefn beiciau ar gyfer bob oedran a safon, o blant ifanc a ras her Carningli a thaith 45 milltir i'r rhai profiadol. Dim i fi, diolch yn fawr!
Os doeddech chi ddim wedi bod mewn caiac o'r blaen, roedd siawns ardderchog ddydd Sadwrn, gyda chyfle i gael blas ar ganwio dan arweinydd profiadol, a phob math o ganw a rasus trwy gydol y dydd.
Prynhawn Sadwrn oedd yr uchafbwynt i fi, pan berfformiodd Lowri Evans (merch o'r dref) a Lee Mason ar y llwyfan. Mae llais tlws gyda hi, unigryw â dweud y gwir, a Lee oedd yn chwarae'r gitâr trydan yn lle un acwstig i gyfeilio iddi. Chwarae teg iddo, mae gallu chwarae gyda fe!
Cawson ni hanner eu set yn Gymraeg, a'r gweddill yn Saesneg, gan gynnwys rhai o'i halbwm newydd a fydd yn cael ei rhyddhau cyn bo hir. Mae pedwar albwm gyda hi erbyn hyn.
Roedd rhywbeth gwahanol iawn yn eu dilyn nhw, ar lan y môr yn Nhrefdraeth.... dawns lew Tsieinïaidd gan blant Ysgol Bro Ingli a'u hathro. Roedd y babell yn llawn o'u rhieni ac ymwelwyr. Doeddwn i ddim wedi gweld y ddawns o'r blaen ond mae diwylliant gwledydd eraill wastad o ddiddordeb mawr i fi.
Roedd drwm mawr yn cadw'r curiad oedd wedi cael ei chwarae gan yr athro, gyda rhai o'r plant yn bwrw symbals.
Roedd dau blentyn tu fewn i'r llew yn eu tro, yn adrodd hanes gyda dawns mor fywiog, difyr a doniol.
Diwrnod bendigedig! Dwi wedi sôn am ddim ond ychydig o'r digwyddiadau o Wyl Wanwyn Bae Trefdraeth, ond pe hoffech chi fynd y flwyddyn nesaf, mae gwybodaeth ar www.newport-pembs.co.uk