Ces i fy magu mewn pentref bach
clyd ar ynys Java. Cawson ni fywyd
eitha moethus ar y pryd, mewn tŷ
mawr a gardd o'i gwmpas. Roedd 'na
amryw o ffrwythau'n tyfu ym mhob
man yn yr ardd - ros afal, mango,
grawnwin, orennau, pomelo, bananas
a phomegranad. Cerddai ceiliog a
chywion yma ac acw tu ôl i'r tŷ.
Roedd trydan yn brin ond roedd
digon i oleuo ein cartref cysurus.
Chawson ni ddim ond dŵr ffres o'r
ffynnon i goginio a golchi, ac roedden yn fodlon a hapus. Ces i blentyndod
diddos a mor llawen yn byw gyda fy
mam-gu a thad-cu.
Roedd rhan fwya o gartrefi'r
pentrefwyr heb drydan o gwbl, ac
roedd rhaid defnyddio'r gannwyll
neu lampau olew. Adeiladwyd y tŷ
o fur bambŵ a tho tun. Roedd rhai
teuluoedd yn rhannu ffynnon i gael
dŵr, weithiau roedd rhaid iddyn
nhw fynd at yr afon i olchi dillad neu
ymolchi; roedd hynny yn gyffredin.
Cawson nhw fywyd syml ac organig
- tyfu'r llysiau, casglu coed ar gyfer
coginio, weithiau hela moch gwyllt
am fwyd yn y jyngl agosaf. Roedd
eu bywydau hunan-gynhaliol mor
dangnefeddus.
Yn aml, roedd
plant yn helpu i
ennill eu bara ar
ôl ysgol neu yn
ystod y gwyliau
trwy werthu papurau,
gweithio fel gwas neu
forwyn, neu mewn ffatri neu'r maes
padi. Roedd pawb yn helpu gyda'i
gilydd ac yn dod ymlaen yn dda.
Cawson nhw fywyd heddychlon ond
nid moethus.
Symudais i Gymru ugain mlynedd
yn ôl; caf i fywyd llon a llawn asbri,
ac mae'r werin bobl yn gyfeillgar a
charedig. Rwy'n sylwi bod y bywyd
mwyaf moethus gyda ni yn y byd
gorllewinol. Mae 'na lawer o ddewis
a llawer o gwyno ac anfodlonrwydd.
Mae rhan fwyaf ohonon ni, hyd
yn oed, yn awchu am ddilyn bywyd
organig; ond mae'n ddrud ac anodd i
ddal ati, ac hefyd mae bwyd parod ar
gael ym mhob twll a chornel o'r wlad,
sy'n rhad ac yn gyfleus i rai.
I raddau helaeth, rwy'n teimlo bod
bywyd traddodiadol Cymru yn newid
gyda ffordd o fyw technolegol fodern.
Tybed? Mae'n drueni. Mae'r dechnoleg
fodern yn newid pob math o bethau
traddodiadol ac yn dylanwadu mor
fawr ar rai pobl, ond
heb newid fy syniad
i eto - a ddim byth!!
Mae'n rhaid i mi
gyfaddef, dydy bywyd
pentrefwyr gwlad fy
mebyd ddim yn newid llawer, ar
wahan i wella'r tai a chyfleusterau.
Mae'r ffordd o fyw yn draddodiadol
o hyd.
Mae'n drist i adael gwlad fy mebyd,
dim ond cof cymysglyd sydd yn aros,
oherwydd rwy wedi cwympo mewn
cariad â Chymru. Rwy'n dwlu ar
bethau o bob lliw a llun yn fy ngwlad
fabwysiedig - Cymru fach sy'n
ysbrydoli fy mywyd bellach.