Mae'r wraig a fi wedi bod yn gweithio ar gywaith archaeoleg ers nifer o flynyddoedd nawr a hoffwn i 'sgrifennu tipyn ynglŷn â'r canlyniadau sy'n ymddangos yn ddiddorol i ni. Pa ddull gwell nag yn yr iaith Gymraeg?
Er mwyn i fi wneud synnwyr o'r pwnc rwy'n rhannu'r erthygl yn dair rhan.
Yn gyntaf, am beth ydyn ni'n chwilio, wedyn yr offer rydyn ni'n ei ddefnyddio
ac yn olaf, beth ydyn ni wedi'i ddarganfod - neu i fod yn fwy diymhongar,
wedi sylwi arno.
Yn gyntaf, pobl Oes y Cerrig yw'r gwrthrych arbennig, a'r cofgolofnau
gadawsant o gwmpas y wlad. Oes yna unrhyw neges y maent wedi ei adael
i ni? Beth oedd ym meddwl y dynion a gododd feini hirion, cromlechi a
chylchoedd cerrig bedair neu bum mil o flynyddoedd yn ôl, rhai ohonyn
nhw'n gyndadau i ni, efallai.
Yr offer
Wel, er mwyn dod o hyd i beth oedd yn mynd ymlaen mae'n rhaid i ni ddefnyddio ffon dewin-dŵr er mwyn dilyn y patrymau gwahanol lle mae'r cerrig yn sefyll.
Dywedir gan rai bod y gallu i ddefnyddio'r ffon fforchog wedi dod o'r
Almaen yn yr unfed ganrif ar bymtheg ond, ar ôl i chi ddarllen yr erthygl
yma, gobeithio meddyliwch chi yn wahanol, oherwydd wrth edrych ar
batrymau o gwmpas pob carreg bydd hi'n amlwg fod ein cyndadau yn Oes y
Cerrig yn defnyddio'r ffon dewin-dŵr ledled y wlad.
Sut felly mae trin y ffon fforchog yma? Mae hi'n stori hir sut dechreuais
i gymryd diddordeb mewn dewinio dŵr, ond roedd hi'n ymwneud ag
archaeoleg pan geisiais i y tro cyntaf. Roeddwn i'n byw ym Muscat,
prifddinas Oman, a doedd dim llawer o ffyn fforchog yn tyfu yn yr anialwch
felly roedd rhaid i fi addasu. Yn gyntaf, gyda darn o wifren ac unrhyw beth
oedd yn bosibl ei blygu, ac o'r diwedd gyda dau ddarn o fambŵ a gafodd
eu cysylltu gyda'i gilydd â darn bach o rwber trwchus.
Rhaid i chi ddal y ffon fel yn y diagram ar yr ochr dde, a'r gyfrinach yw pwyso un pen yn erbyn y pen arall trwy'r darn o rwber, ond yn ysgafn iawn (rhaid i chi arbrofi tipyn). Ar y dechrau i'r mwyafrif ohonom ni, ni fydd dim byd yn digwydd, ond 'dal ati'.
Dywedodd un o fy ffrindiau: 'Rwyt ti'n gwastraffu dy amser, anrheg o'r Arglwydd mawr yw hi', ond i ddweud y gwir yr unig anrheg o'r Arglwydd mawr yw dyfalbarhad. Ceisiwch uwchben piben ddŵr yn y gegin neu'r ardd a chyn bo hir fe deimlwch chi rywbeth yn yr arddyrnau. Wedyn, ar ôl i chi ddal ati tipyn mwy bydd y teimlad fel pysgodyn bach yn tynnu ar ben y ffon a rhyw ddiwrnod, y diwrnod mawr, bydd y ffon yn troi yn eich dwylo, a dyma ni - bant â chi!
Mae yna fwy nag un offeryn ar wahân i'r ffon fforchog wrth gwrs; rhoden ongl,
pendil a llawer o offer sy'n edrych fel rhywbeth allan o'r byd yma, ond rydw i'n credu yn y ffon fforchog gant y cant.
Pedwar math o gofgolofn
Wel beth oedd yn mynd ymlaen yn Oes y Cerrig a pham oedden nhw'n codi'r cofgolofnau lle maen nhw? Ar ôl i ni grwydro o gwmpas Gorllewin Cymru yn edrych ar bob yn ail faen hir neu gromlech, sylweddolom ni nad oedd ond pedwar math o gofgolofnau, sef maen hir (un garreg ar ei phen ei hunan), cromlech dwy garreg, a chylch cerrig. Os oes yna fwy na dwy garreg, rhan o rywbeth arall ydyn nhw: cylch neu gromlech sydd wedi cwympo i lawr, efallai.
Negeseuon mathemategol?
'Roedd yn amlwg i ni ar ôl tipyn o amser fod pob teip o gofgolofn yn sefyll ar ei batrwm arbennig ei hunan; maen hir ar dröell llinell ddŵr, cromlech ar linellau sy'n croesi ei gilydd fel bwrdd drafftiau, ac mae cylch cerrig, wrth gwrs, ar linell sy'n gwneud cylch. Mae dwy garreg yn sefyll ar batrwm arbennig. Rhyw fath o neges fathemategol yn fy nhyb i, oherwydd taw gwawr y byd mathemategol oedd Oes y Cerrig.
G. H. Mcdiarmid