BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dan y Landsker
Cynllun Bro Rhiannon ar daithO Fro Rhiannon i Sain Ffagan
Medi / Hydref 2008
Mae dysgwyr a chefnogwyr sy'n rhan o Gynllun Bro Rhiannon wedi bod ar eu taith flynyddol, ac wedi ymweld â Sain Ffagan.

Ar fore dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf, teithiodd llond bws o ddysgwyr a chefnogwyr Cynllun Bro Rhiannon ar eu taith flynyddol ac eleni'r gyrchfan oedd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Gan fod tywydd eleni braidd yn siomedig, buom yn ffodus i gael diwrnod braf a chyfle i bawb fwynhau cyfleusterau arbennig y lle.

Prif atyniad y diwrnod oedd Eglwys Sant Teilo, sef un o adeiladau mwyaf newydd yr amgueddfa. Symudwyd yr eglwys o Landeilo Tal-y-bont ger Pontarddulais yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi eu hail-greu yn rhagorol iawn.

Bu sawl un yn prynu bara ffres gyda'r pobyddion, yn ymweld â'r castell a'r gerddi ysblennydd, y ffermdai, Capel Penrhiw, Swyddfa Bost Blaenwaun, siop y crydd o Sanclêr a'r rhes tai Rhyd y Car ac ati.

Erbyn diwedd y prynhawn, aeth llawer i brynu nwyddau yn y siop i gofio'r daith cyn mynd nôl ar y bws a chyrraedd Gwesty Llwyn Iorwg, Caerfyrddin am bryd o fwyd a chyfle i gymdeithasu ar ddiwedd diwrnod pleserus iawn.

Diolch arbennig i gwmni bysiau Jones Login am bob cymorth gyda'r trefniadau ac i Arian i Bawb am ariannu rhan o'r daith. Y cwestiwn mawr ar ddiwedd y daith oedd "I ble nesaf?".


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy