Gwyliwch y gweddïau
Petai cefnogwyr Caerdydd wedi troi at esgob Croydon, y Gwir Barchedig Nick Baines, cyn y penwythnos diwethaf, efallai y byddai canlyniad y gêm honno yn Wembley wedi bod yn wahanol iawn.
Yr wythnos yma, mae'r Gwir Barchedig, ynghyd ag Eglwys Lloegr, wedi cyhoeddi tair gweddi fer ar gyfer Cwpan y Byd.
Wel i fod yn gywir, dwy weddi ar gyfer Cwpan y Byd ac un weddi yn gofyn i'r rheini nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed i ddangos goddefgarwch am y mis nesaf tuag at y cefnogwyr:- 'Ein Tad, tra bo twymyn Cwpan y Byd yn cael gafael ar bawb o'n cwmpas, bendithia ni â dealltwriaeth, cryfha ni gydag amynedd a dyro i ni yr anrheg o amynedd os fydd ei angen arnom. Amen'
Mae'r ddwy arall yn gofyn am arweiniad a gofal dros bawb sydd yn cymryd rhan, mewn unrhyw ffordd, yng Nghwpan y Byd, ac am sicrhad y bydd llawenydd yn amlygu ei hun yn Ne Affrica dros y mis neu ddau nesaf.
Tybed faint o ddilynwyr yr Adar Gleision sydd wedi gweld eu hamynedd nhw yn cael ei brofi i'r eithaf yr wythnos yma, neu yn meddwl ble oedd unrhyw arweiniad ar y cae wrth faglu yn erbyn Blackpool?
Ond, yn hytrach na chwyno, beth am fynd gam ymhellach yma yng Nghymru, a chynnig gweddïau, neu hyd yn oed ein hemynau ein hunain, a hyn mewn gwlad a welodd Cwm Rhondda yn cynnig mwy o ysbrydoliaeth i lawer na thalpiau o lo o'r pyllau fel y bu ar un adeg.
Beth am roi cynnig tuag at greu gweddi neu ddwy, neu emyn o fawl, yn gofyn am gymorth ac arweiniad i'n timau pêl-droed?
Rhowch gynnig arni a gadewch i ni wybod os ydych wedi derbyn ysbrydoliaeth o rywle.
Yn y cyfamser, hoffwn gynnig yr emyn byr yma i gefnogwyr Caerdydd yn sgil y digwyddiad diweddaraf yn hanes eu clwb:-
'Wele, cawsom y Malaysian
Cyfaill gwerthfawroca' 'rioed;
Darfu i Ridsdale a'r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod'
Hwyl gyda'r cyfansoddi, a gwyliwch y gweddïau!




Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 