| Yn 20 oed, Ramsey yw capten ieuengaf Cymru erioed ond dechreuodd ei gyfnod ar nodyn siomedig wrth i Loegr ennill o 2-0 yn Stadiwm y Mileniwm. Serch hynny roedd chwaraewr canol Arsenal yn falch iawn o fod yn gapten y tîm cenedlaethol. "Roeddwn yn browd iawn i arwain y bechgyn mas ar y cae," meddai Ramsey mewn cyfweliad Cymraeg gyda BBC Cymru. "Ond roedd y canlyniad wedi rhoi dipyn bach o ar y diwrnod i mi. "Fi ddim yn mynd i sgrechian at unrhyw un. "'Dwi am arwain drwy esiampl a gobeithio y ffordd fi'n chwarae dwi'n gallu bod yn gapten fel hynny. "Roedd yr hanner cyntaf yn siomedig ond yn yr ail hanner [roeddem[ dipyn bach yn well. "Roedd y bechgyn wedi chwarae'n well yn yr ail hanner ac roedd 'na bositifs wedi dod o hynny. "Roedd pawb yn edrych ymlaen at chwarae ond ar y diwrnod doedden ni ddim wedi troi fyny yn yr hanner cyntaf." Mae'r golled yn erbyn Lloegr y Sadwrn diwethaf yn golygu bod Cymru ar waelod Grŵp G yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012. Bydd tîm Gary Speed yn gorfod disgwyl tan fis Medi am eu gêm nesaf yn y grŵp pan fydd Montenegro yn ymweld â Chymru. Cyn hynny bydd gemau yn erbyn Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Nulyn. Ac mae Ramsey wedi dweud y bydd Cymru yn awyddus i ddod a'u rhediad truenus o bum colled yn olynol i ben. "Ni eisiau mynd allan ar y cae cyn gynted a phosib i ni fe'n iawn," meddai Ramsey. "Roedd y canlyniad ar y penwythnos yn siomedig i ni a ni eisiau rhoi hynny yn iawn yn fuan."
 |