| Bydd tîm Gary Speed yn wynebu Montenegro ym mis Medi a hyd yn hyn nid yw Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cadarnhau lleoliad y gêm. Roedd Stadiwm y Mileniwm dan ei sang am y tro cyntaf ers chwe blynedd y Sadwrn diwethaf wrth i Gymru golli o 2-0 yn erbyn Lloegr. Ac mae Ledley yn gobeithio y bydd digon o ddiddordeb ymysg y cefnogwyr i gynnal y gêm yn y Stadiwm sydd â lle ar gyfer dros 72,000 o bobl. "Gobeithio y dawn nhw'n ôl i gefnogi ni'r chwaraewyr," meddai chwaraewr Celtic. "Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr yn yr hyn 'da ni'n gwneud. "Mae'n stadiwm wych, ac o bosib y gorau 'dwi wedi chwarae ynddi erioed." Mae amddiffynnwr Nottingham Forest, Chris Gunter hefyd yn teimlo bod gan y cefnogwyr gyfraniad pwysig i wneud ar ddechrau cyfnod newydd i'r tîm cenedlaethol. "Ro' ni'n meddwl bod y cefnogwyr yn ardderchog, er mi roedden nhw wastad am droi lan ar gyfer Lloegr," meddai Gunter. "Da ni eu hangen gymaint â maen nhw ein hangen ni. Mae'n gwneud gwahaniaeth pan fo'r stadiwm yn llawn. "Gobeithion y cânt nhw weld ein bod yn gwella ac ry' ni'n hyderus o wneud hynny." "Pan fo chi'n mynd ar ei hôl hi, ac mae'r tîm wedi cael rhediad gwael o ganlyniadau, yna mae'n anodd gweld y tîm yn taro'n ôl."
 |