Ategodd Gerry Toms y bydd yn gwrando ar y cwynion gan dîm Cymru er mwyn gallu osgoi problemau tebyg yn y dyfodol. "Mae'n ddrwg gen i fod y cae heb gyrraedd disgwyliadau ond 'dw i'n siŵr bod y staff wedi gwneud eu gorau," meddai Toms. "Mae nawn ni dderbyn ambell i sylw pigog, mae'n anochel ac yn aml iawn mae'n dod gan y tîm sydd wedi colli. "Doedd na ddim cwyn gan Loegr ond nawn ni derbyn bob cwyn ac maen nhw'n brifo rhyw ychydig. "Rydym ni'n gwneud ein gorau a dyna beth wnaeth y staff." Roedd capten Cymru, Aaron Ramsey, ymysg rai o chwaraewr Cymru i gwyno ynglŷn â chyflwr y cae ar ôl colli 2-0 i Loegr yn y gêm yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012. Gwelwyd sawl chwaraewr yn llithro wrth geisio newid cyfeiriad, ac roedd enghraifft o hynny yn y munudau agoriadol pan ddisgynnodd James Collins cyn llorio Ashley Young yn y cwrt ac ildio cic o'r smotyn. Mae'r rheolwr, Gary Speed, wedi dweud ei fod yn awyddus i barhau i ddefnyddio'r stadiwm ar gyfer gemau nesaf Cymru, ond ategodd bod rhaid i'r cae fod mewn cyflwr derbyniol er mwyn gwneud hynny. Ers i'r stadiwm agor yn 1999, mae safon y maes wedi dod o dan y lach sawl tro. Y brif broblem, yn ôl Toms, yw'r ffaith nad ydi'r cae yn un parhaol ac yn cael ei godi er mwyn cynnal cyngherddau a digwyddiadau eraill tu allan i'r byd chwaraeon. "Rydym ni'n cynghori chwaraewyr i wisgo esgidiau pêl-droed gyda stydiau yn hytrach na rhai gyda blades," dywedodd Toms. "Os ydyn nhw'n dewis peidio gwrando ar y cyngor yna, mi fydden nhw fwy tebygol i lithro."
 |