 | Diweddarwyd: 28 Mawrth 2011 |
 |  |  | |  |  | Mae Allen, sydd wedi ennill dau cap i'r tîm llawn, yn dioddef anaf i'w ysgwydd ac mae Nathan Craig o Everton yn cymryd ei le yn y garfan. Bu Allen yn ymarfer gyda'r garfan lawn yr wythnos diwethaf fel rhan o'u paratoadau ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr. Andorra yw gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth dan21 Uefa. Y timau eraill yng Ngrŵp 3 yw Armenia, Montenegro a'r Weriniaeth Tsiec gyda'r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yn Israel yn 2013.
Carfan dan21 Cymru: Rhys Taylor (Chelsea - ar fenthyg gyda Crewe Alexandra), David Cornell (Abertawe - ar fenthyg gyda Port Talbot), Daniel Alfei (Abertawe), Tom Bender (Colchester United), Troy Brown (Ipswich Town), Paul Dummett (Newcastle United), Ashley Richards (Abertawe), Adam Matthews (Caerdydd), Billy Bodin (Swindon Town), Lee Lucas (Abertawe), Joe Partington (AFC Bournemouth), Jonathan Williams (Crystal Palace), Ryan Doble (Southampton - ar fenthyg gyda Rhydychen), Elliott Chamberlain (Caerlŷr), Robert Ogleby (Heart of Midlothian), Jake Taylor (Reading), Jake Cassidy (Wolverhampton Wanderers).
 |  |  |  |
|
|