Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cam yn nes at wlad yr addewid

Glyn Griffiths|12:14, Dydd Sadwrn, 15 Mai 2010

Un gêm ar ôl. Un cam yn nes at Uwch Gynghrair yr addewid a thrip arall i Wembley yr wythnos nesaf.

Os oedd y gemau yn erbyn Caerlŷr yn gyffrous, tybed a yw hyn yn arwydd o'r cyffro a fydd yn Wembley, gan ystyried hefyd y cyffro a fu yn y gemau rhwng Nottingham Forest a Blackpool.

Sgorio ydi cryfder yr Adar Gleision, ond sgorio hefyd ydi cryfder Blackpool yn ddiweddar, gyda chwe gôl yn cael eu sgorio yn y ddau gymal.

Petai Caerdydd yn llwyddo i gyrraedd yr Uwch Gynghrair , rhaid hefyd gofyn a yw'r tîm presennol yn ddigon da i aros yno. Peidiwch ag anghofio Derby County rhyw ddau neu dri thymor yn ôl, a'u hanallu llwyr i ddygymod â safon uwch.

Ymysg trafferthion ariannol Caerdydd, bydd sicrhau mwy o chwaraewyr i gystadlu yn yr Uwch Gynghrair yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei ystyried.

Sut fuasech chi yn mynd ati i wella a chryfhau'r tîm - boed hynny er mwyn ymdrechu eto yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, neu fel yr ydym yn ei obeithio, i wynebu treialon yr Uwch Gynghrair ar feysydd gwyrdd cyfoethog yr Uwch Gynghrair?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.